Cyswllt Syr Rhys â Chaerfyrddin
Roedd gan Syr Rhys gyswllt cryf â Chaerfyrddin, cartref Eisteddfod Genedlaethol eleni, mae Richard Davies yn ysgrifennu.
Mae Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las yn prysur agosau. Ond eleni, mae’n Prifwyl yn dathlu penblwydd arbennig iawn oherwydd mae wyth canrif a hanner ers cynnal yr eisteddfod gyntaf yng Nghastell Aberteifi yn 1176. Cynhaliwyd yr eisteddfod honno dan nawdd y tywysog Rhys ap Gruffudd,,sef Yr Arglwydd Rhys. Ond beth a wyddom am y dyn pwysig hwn?
Ganwyd Rhys tua’r flwyddyn 1132 ac roedd yn fab i Gruffudd ap Rhys ap Tewdwr a’i wraig Gwenllian. Roedd rhain yn flynyddodd anodd ac ansefydlog yng Nghymru gyda’r Normaniaid yn ymosod a chymeryd darnau helaeth o deyrnas Deheubarth. Collodd Rhys ei fam a’i dad pan yn ifanc, ac roedd ad-ennill yr hen diroedd teuluol yn nôd flaenllaw yn ei fywyd.
Gellir rhannu ei fywyd yn dair rhan: i fyny tan 1155 ,pan oedd yn cyd-frwydro gyda’i frodyr yn erbyn y gelyn pan ond yn ei arddegau cynnar. Erbyn 1155, dim ond Rhys oedd ar ôl.
Yn yr ail gyfnod, er yn rheolwr ar yr hyn roedd yn weddill o Deheubarth, bu rhaid i Rhys gydnabod bod ei ewythr, Owain Gwynedd yn gryfach nag ef. Roedd rhain yn flynyddoedd anodd i Rhys ond yn raddol ,fe wnaeth ad-ennill rhai o hen diroedd y teulu.
Pan bu farw Owain Gwynedd yn 1170, roedd hi’n amlwg taw Rhys oedd rheolwr mwyaf nerthol Cymru ond roedd rhai iddo droedio yn ofalus oherwydd roedd yn gwynebu Harri II, a oedd yn Frenin Lloegr ac yn deyrn mwyaf nerthol gorllewin Ewrop.
Ond, roedd angen ffrindiau hyd yn oed ar Harri II ac yn y 1170au cynnar fe ddaeth Rhys a Harri i gytundeb ac fel cynrychiolydd y brenin yn Ne Cymru, adnabyddwyd e bellach fel ‘Yr Arglwydd Rhys.’
Bu’r chwarter canrif canlynol yn oes aur i Rhys. Roedd wedi llwyddo i ad-ennill y rhan fwyaf o deyrnas ei gyn-dadau, ac ef oedd rheolwr mwyaf nerthol y Cymry. Roedd yn wladweinydd llwyddiannus: adeiladodd gestyll carreg ( ef oedd y Cymro cyntaf i wneud hyn), roedd yn noddwr yr eglwys a’r mynachlogydd, ysgrifenwyd y cyfreithiau Cymreig mewn llyfrau ac wrth gwrs, roedd yn noddwr yr eisteddfod gyntaf yn ein hanes.
Roedd ei flynyddodd olaf, beth bynnag, yn anodd: pan bu farw Harri II yn 1189, gwelwyd taw perthynas bersonol oedd rhyngddynt ac nid oedd y brenin newydd yn awyddus i’w adnewyddu - fel canlyniad ail-ddechreuodd yr ymladd. Problem arall a wynebai oedd meibion afreolus ac am gyfnod, carcharwyd Rhys gan ddau o’i feibion yn Nghastell Nanhyfer.
Bu farw Rhys ar 28 Ebrill 1197, ac fe’i claddwyd yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi.