Sut i ddarllen a deall eich dôl
Mehefin yw'r mis perffaith i fwynhau blodau’r glaswelltir ac mae gan lawer ohonom ni 'ddôl boced' o laswellt hir, blodeuog yn ein claddfeydd eglwysig, yn iardiau ein capeli, yn ein mynwentydd a hefyd yn ein gerddi. Yn ogystal â bod yn brydferth, gall y llecynnau bach hyn ar gyfer peillwyr fod â gwerth mawr i fywyd gwyllt o fewn tirweddau trefol a gwledig. Weithiau, fodd bynnag, bydd yna lai a llai o flodau i’w gweld wrth i'r blynyddoedd fynd yn eu blaen, a gall fod yn anodd gwybod pam. Os yw hyn yn wir mewn dôl rydych chi'n ei rheoli, beth am edrych tua’r glaswelltir am gliw neu ddau i achos y broblem.
Gellir rhannu glaswelltau brodorol yn rhywogaethau meinddail a garw. Mae'r glaswelltau meinddail yn fyrrach, tua 30cm, gyda choesau main, tebyg i nodwyddau trwchus a dail bach. Mae glaswelltau meinddail yn caniatáu digon o le i flodau gwyllt ac ymhlith y rhywogaethau cyffredin mae gwahanol fathau o weunwellt, maswellt a pheiswellt.
Mae'r glaswelltau garw yn fwy, weithiau dros 1m o uchder, gyda choesau trwchus, dail llydan a gwaelodion twmpathog. Mewn porfa o laswelltau garw, bydd pob peth heblaw’r blodau gwyllt mwyaf a chryfaf yn cael eu gorchuddio a'u colli. Fydd eu hadau ddim yn cyrraedd y pridd i egino a bydd planhigion bach yn cael eu cuddio gan gysgod a'u gwthio allan. Pyswellt, ceirchwellt tal a maswellt penwyn yw’r prif laswelltau garw.
Er y gall dôl flodeuog gynnwys rhywogaethau o laswelltau meinddail a garw, os bydd cyfran y glaswelltau garw yn cynyddu i fwy na dim ond planhigion achlysurol yma ac acw, yna efallai y bydd gennych chi broblem. Mae glaswelltau garw yn ffynnu lle mae’r pridd yn ffrwythlon iawn, a lle nad yw’r gwair yn cael ei dorri’n aml iawn. Os ydych chi'n torri'ch dôl unwaith y flwyddyn, yn eithaf hwyr yn y tymor, fe fydd hyn yn cynyddu ffrwythlondeb a chryfder y glaswelltau garw. Mae cribinio toriadau yn hanfodol ar gyfer dôl – ond os nad ydych yn eu casglu, bydd y toriadau’n pydru, gan gynyddu’r maetholion a gorchuddio’r planhigion eraill. Felly, os oes yna laswelltau garw yn dominyddu'ch dôl, torrwch nhw’n amlach, yn gynharach yn yr haf a chribiniwch yn ddyfal i ddinoethi’r pridd.
Mae dolydd yn amrywio yn dibynnu ar eu pridd, eu lleoliad ac ar y tywydd, ond fel rheol, mae’n arfer da gadael dôl heb ei thorri am dri i bedwar mis ar y mwyaf. Gallwch dorri ym mis Mawrth neu Ebrill ac yna eto ym mis Gorffennaf neu Awst neu, os nad ydych chi'n torri yn y gwanwyn, ewch ati i dorri erbyn canol mis Gorffennaf. Mae hyn yn golygu torri rhai blodau ond bydd hyn wir yn torri’r glaswelltau garw yn eu hôl, a hynny er budd i’r glaswelltau meinddail. Ar ôl blwyddyn neu ddwy byddwch chi'n dechrau gweld y blodau gwyllt yn dychwelyd. Hefyd, mae'r rhan fwyaf o blanhigion y dolydd yn rhai lluosflwydd felly bydd y blodau yn dal i fod yno hyd yn oed os nad oedden nhw wedi hadu ac fe allwch chi bob amser dorri o gwmpas clwstwr neu ddau o rywogaethau sy’n blodeuo’n hwyr.
Harriet Carty, Cynghorydd Amgylcheddol Mynwentydd yr Esgobaeth, harriet@cfga.org.uk,
www.caringforgodsacre.org.uk - mae unigolion a grwpiau yn yr esgobaeth yn derbyn gostyngiad o 20% i aelodau ar holl ddeunyddiau CfGA. Defnyddiwch y cod disgownt diomem22