Hafan Pobl Dewi: Mehefin 2026 Dyddiadur Gwraig Person

Dyddiadur Gwraig Person

Polly Zipperlen sy’n disgrifio cyfnod o addasu ar ôl i’r teulu symud i Sussex.

Felly, dyma fy erthygl gyntaf sydd wedi’i hysgrifennu o ochr arall y ffin. Ar ôl byw yng Nghymru am yr 20 mlynedd diwethaf, mae croesi Clawdd Offa wedi bod yn dipyn o sioc. Daeth y symudiad yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau anffodus yn ymwneud â rhieni Marcus a salwch, a arweiniodd at gyfnod cythryblus o chwilio am waith. Diolch byth, daeth eglwys a swydd nyrsio yn wag o fewn 7 diwrnod i'w gilydd.

Dechreuodd hyn i gyd yn ôl yn gynnar yn yr hydref, gyda chyfnod hir i ddilyn lle’r oedd y symud i Brighton yn rhywbeth mewn dyfodol amwys, afreal bron iawn. Roedd hyd yn oed y weithred gorfforol o symud yn gymharol ddi-straen, a dim ond nawr rydyn ni'n teimlo'r ergyd galed, oer.  Wedi'n tynnu o gymuned glyd yn llawn ffrindiau a gweithgareddau yn Sir Benfro, i ynys gymharol anial.

Rwy'n cyfaddef bod hon yn fersiwn ychydig yn or-ddramatig o bethau, gan fod bod yn rhan o deulu gweinidog hefyd yn golygu perthyn i gymuned fyd-eang, barod. Ond mae elfen o wahanu yno yr un fath, gyda bywyd o gweinidogaeth yn britho cymuned, yn hytrach na chael ei gymysgu o’i mewn. Doedd hyd yn oed y Rheithordy yn Llangwm ddim yn hollol yn y pentref, ond yn hytrach, ychydig y tu allan i'r ffin a ddim yn agos at yr eglwys o gwbl.

Does dim o’r gwahanu corfforol yna yma, lle rydyn ni wedi’n gwasgu rhwng yr eglwys a neuadd yr eglwys, gyda ffenest ein cegin yn edrych allan yn union ar ddrws y neuadd. Er bod hyn yn rhoi golwg uniongyrchol i ni o’r holl fynd a dod, a bod y dosbarth ar gyfer cŵn bach ddydd Llun yn ffefryn pendant gan Neymar, mae'n rhaid i mi gofio gwisgo'n llawn cyn gwneud paned boreol. Rwy’n llawn mor bryderus am y lein ddillad, sydd y tu allan i'r drws cefn: sylweddolais yn ystod helfa wyau’r Pasg fod modd gweld dillad isaf y teulu’n glir o’r fynwent.

Mae angen gwneud addasiadau meteorolegol hefyd. Mae gen i gasgliad sy'n dirywio o blanhigion tomato sychedig yn yr ardd, o ganlyniad i golli un diwrnod o ddyfrio, ond dydw i ddim wedi dioddef unrhyw ddifrod gan wlithod eto. Mae dodrefn yr ardd, y goliau pêl-droed, a’r golch i gyd yn aros lle maen nhw i fod, yn hytrach na chael eu gwasgaru blithdraphlith o gwmpas y gymdogaeth, gan fod llai o wynt yn taro ein ffiniau.

Rwy’n hiraethu am sawl agwedd ar Sir Benfro, ond mae llawer i'w ddarganfod yn Sussex hefyd ac rydyn ni’n edrych ymlaen at yr hyn sydd gan St.Michael's ar y gweill i ni dros y misoedd nesaf, wrth i ni gael ein hintegreiddio os nad ein trochi ym mywyd y plwyf.