Dyddiaduron
Mae rhai dyddiaduron yn enwog iawn, meddyliwch am Pepys, Adrian Mole ac Anne Frank. Wel, nid yw fy un i wedi cyrraedd y siopau eto!
Pam mae pobl yn cadw dyddiadur? Iddyn nhw eu hunain neu i eraill eu darllen? Fe ddechreuais i gadw un pan oeddwn tua 9 oed, yn yr ysgol gynradd a mwy neu lai’n gyson ers hynny tan mod i’n ugain oed. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn dal gyda fi, mewn bocs o dan y gwely.
Mae’r rhai cynnar yn fyr iawn , y tywydd falle, neu ‘daeth bocs llyfrgell newydd i’r ysgol heddi’! Ond roedd yr un yn 1962 yn cofnodi mod i wedi methu sefyll yr arholiad 11+ oherwydd yr eira mawr, ac roedd ysgol Llangyndeyrn ar gau am wythnosau. Byddwch yn falch o glywed mod i wedi pasio rai misoedd yn ddiweddarach. Rwyn sôn am gael sbectol am y tro cynta, ac am wyliau diddorol.
Mae’r dyddiaduron ysgol uwchradd yn sôn am arholiadau, am fechgyn golygus, ond hefyd cofnod o sawl person oedd ym mhob gwasanaeth dydd Sul yn yr eglwys. Roedd mynd i’r dre ar nos Sadwrn, Clwb Ieuenctid ar nos Wener, ac ambell raglen deledu megis Forsyte Saga.
Erbyn mynd i’r coleg, roedd newid mawr. Credwch neu beidio, ysgrifennais bob nos, hyd yn oed am 1 o’r gloch y bore. Roedd pethau’n poethi erbyn hyn, a llawer iawn o brofiadau a ffrindiau newydd. Bum yn codi bawd a chael lifft o Aberystwyth nôl i Gaerfyrddin am y penwythnos, peth sy’n codi arwsyd arna i nawr, a dal bws i Lambed gogyfer â chwrdd sefydlu nhad yng Nghwmann a Phencarreg.
Wedyn, fe gwrddais â’r dyn sy wedi bod yn ŵr i mi ers 53 o flynyddoedd, a dyma ddiwedd ar gadw dyddiadur!
Felly, beth oedd fy mhwrpas i wrth ysgrifennu dyddiadur? Wrth edrych yn ôl arnynt nawr, rwyn cochi ac yn synnu ac yn gofyn i fi fy hun ‘Pwy oedd y person hynny?’ Ai cofnod oedd e, neu arllwys fy nheimladau, neu er mwyn i eraill eu darllen yn y dyfodol?
Prynodd ffrind ddyddiadur hardd i fi llynedd ac fe ysgrifennais ynddo bob dydd drwy’r flwyddyn, ac eto eleni, hyd yn hyn. Bob dydd rwy’n cofnodi’r tywydd, fel yr oedd fy mam yn arfer gwneud yn ei dyddiadur hithau, ond ffeithiol yw’r cynnwys erbyn hyn, a na, chewch chi na neb arall fyth ddarllen fy nyddiaduron i.