Encil Greadigol yn Llanfihangel Genau’r Glyn
Bwrdd yn llawn o bellenni gwlân a stripedi o frethyn oedd yn tynnu sylw ymwelwyr wrth iddynt fynd i mewn i eglwys Llanfihangel Genau’r Glyn ar Ŵyl Banc Calan Mai. ’Roedd y defnydd yno’n barod ar gyfer gweithgareddau creadigol dan arweiniad y Parch Ddr Romola Parish i gydfynd ag arddangosfa o’i gwaith brodwaith.
‘Roedd yr arddangosfa Llefain yn y Diffeithwch Silicon i’w gweld yn yr eglwys drwy gydol y penwythnos. Ynghyd â phob panel brodwaith ‘roedd myfyrdod a oedd yn rhoi cyfle i ymwelwyr fyryrio nid yn unig ar y celfyddyd ond hefyd ar yr ysbrydoliaeth bersonol a beiblaidd tu ôl i’r gwaith.
‘Roedd yr ystafell gyfarfod ym mhen gorllewinol yr eglwys yn safle perffaith i gynnal encil greadigol ar y dydd Llun. Gwahoddwyd ymwelwyr i wneud cadwynau gweddi mewn defnydd a mandalas Llygad Duw mewn gwlân lliwgar, gweithgareddau y gellid eu gwneud yn feddylgar tra ar yr un pryd yn creu celfyddyd gain. Arhosodd sawl un yno am y diwrnod cyfan tra bu eraill yn cymryd rhan am rhyw awr neu ddwy yn unig.
‘Roedd y penwythnos gyfan yn gyfle i groesawu aelodau’r gymuned i mewn i’r adeilad yn ogystal â diddori ymwelwyr ar eu gwyliau yn yr ardal ac hefyd i ymuno ag aelodau eglwysi eraill yn yr AWL. Gyda ambell seibiant i gael clonc dros baned a chacen ‘roedd yn amser i ddod i nabod ein gilydd yn well.
Mae eglwys Llanfihangel Genau’r Glyn yn ganolbwynt dehongli Llefydd Llonydd, llwybr treftadaeth eglwysi a chapeli ar draws Gogledd Ceredigion. Mae hefyd yn aelod o Rwydwaith Safleoedd Pererindod Bychain ac yn agor i ymwelwyr bob dydd. ‘Roedd yr encil greadigol yn rhan o’r gwaith presennol i sefydlu’r eglwys fel canolfan gweddi ac ysbrydoliaeth.
Arddangosfa o 14 panel brodwaith yn darlunio stori ddwys ac ysbrydol o doriad ac adferiad yw Llefain yn y Diffeithwch Silicon. Mae’r darnau wedi teithio’n eang drwy Gymru a Lloegr gan gymmell myfyrdod ac yn aml yn ysbrydoli ymateb creadigol a gweddigar.
Mae’r Parchedig Ddr Romola Parish yn gyn academig a chyfreithiwr mewn materion amgylcheddol. Bu’n astudio brodwaith llaw traddodiadol yn Ysgol Frenhinol Gwiniadwaith ac Ysgrifennu Creadigol yn Rhydychen. Mae wedi cwblhau doethuriaeth yn archwilio ail ysgrifennu bywydau’r saint, gan gynwys gwaith barddonol yn gysylltiedig â St Frideswide o Rydychen ac a berformiwyd yn eglwys gadeiriol Christ Church, Rhydychen yn 2021. Mae’r Parch Romola nawr yn gurad digyflog yn Esgobaeth Tyddewi. Mae hefyd wedi rhedeg dyddiau encil mewn sawl lle gan gynnwys St Beuno, Priordy Hillfield, St Non a Launde Abbey.