Ystyried rôl Arweinwyr Addoliad

Ddydd Sadwrn, 16 Mai ymgasglodd grŵp o oddeutu 35 o Arweinwyr Addoliad ar gyfer Diwrnod Arweinwyr Addoliad a Gweinidogion â Ffocws ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, a drefnwyd gan yr Archddiacon Mones Farah. Syd Smith, Arweinydd Addoliad yn Ardal Gweinidogaeth Leol Bro Padarn, sydd â’r hanes
Dechreuodd y diwrnod addoliad, dysgu ac adnewyddiad gyda gwasanaeth y Cymun Sanctaidd yng nghapel hanesyddol a hardd y coleg, dan arweiniad yr Esgob Dorrien.
Yna dechreuodd sesiwn y bore gyda chyflwyniad i'r diwrnod a chroeso gan yr Archddiacon Mones, ac yna anerchiad gan yr Esgob Dorrien a ddiolchodd i'r grŵp am y gwaith a wnawn i gefnogi ein cynulleidfaoedd a'n clerigion.
Esboniodd yr Esgob Dorrien y gallai'r galwadau ar Arweinwyr Addoliad gynyddu yn sgil ymddeoliadau a phrinder gweinidogion ordeiniedig. Nododd hefyd y dylai Arweinwyr Addoliad ddefnyddio'r homilïau, ac adnoddau eraill, a oedd wedi’u hawdurdodi gan yr esgobaeth yn unig yn y gwasanaethau rydyn ni'n eu harwain, gan esbonio ei bod yn hanfodol peidio â chwilio am adnoddau ar hap o'r rhyngrwyd, a’u defnyddio, gan fod llawer ohonyn nhw’n cynnwys diwinyddiaeth a dysgeidiaeth sy'n mynd yn groes i addoliad Anglicanaidd. Os oes gennych unrhyw amheuon, mynnwch air â'ch offeiriad. Daeth yr Esgob â’r sesiwn i ben gyda sesiwn holi ac ateb fywiog.
Ar ôl cinio bwffe, arweiniwyd dwy sesiwn y prynhawn gan y Parch David Heywood, gyda chymorth ei wraig Meg, o ReSource. Cawsom ein harwain trwy rai o elfennau mwy manwl ein gweinidogaethau. Yn gyntaf, fe ddysgon ni am 'Dwelling in the word', gan ddefnyddio testun o Effesiaid 4, a gofynnwyd i ni adnabod geiriau neu ymadroddion yr oeddem ni, fel unigolion, yn teimlo eu bod yn arbennig o drawiadol. Cafwyd trafodaeth grŵp a sesiwn holi ac ateb i ddilyn.
Wrth symud ymlaen, cawsom ein hannog i gymryd rhan mewn astudiaethau Beiblaidd a gweithgareddau eglwysig a chawsom gwestiynau pellach i’w trafod fel grwpiau. Cododd y Parch David y materion niferus y mae Arweinwyr Addoliad yn eu hwynebu, gan bwysleisio'r angen i arwain gwasanaethau yn hyderus, ac yn enwedig i roi canllawiau clir fel y gall cynulleidfaoedd ddilyn y gwasanaeth, a phwysigrwydd y weinidogaeth groeso.
I gloi'r prynhawn, cyflwynodd y Parch David ni i ReSource (resourcingrenewal.org), sefydliad sy'n cefnogi eglwysi i ddatblygu adnewyddiad a thwf ysbrydol, ac sydd â diddordeb arbennig mewn cynulleidfaoedd bach.
Daeth yr Archddiacon Mones â’r sesiwn i ben trwy ddiolch i'r Parch David a'i wraig am gyflwyniad i’n hysbrydoli a’n hysgogi. Diolchodd hefyd i'r rheiny ohonom a oedd yn bresennol, gan nodi, er bod tua 130 o Arweinwyr Addoliad yn yr esgobaeth, nad oedd modd i lawer fynychu.
Daeth y diwrnod i ben ychydig cyn 4pm gyda'r Esgob Dorrien yn adleisio diolchiadau’r Archddiacon ac yn cloi gyda gair o weddi.