Cipolwg ar Fadagascar fel y mae heddiw
Theresa Haines sy’n dirwyn ei chyfres afaelgar o Fadagascar i ben:
Fe es i i Fadagascar am y tro cyntaf fel gwirfoddolwraig gyda’r Crynwyr ym 1967 ac arhosais am bedair blynedd. Fel y soniais mewn erthygl flaenorol, roeddwn i wedi cytuno i fod yn bennaeth ar ysgol wledig am ddwy flynedd yn unig ac yna fe wnes i adael Madagascar - am byth fel y tybiwn ar y pryd. Roedd gadael yn teimlo fel pe bawn i wedi colli aelod o’m corff gan nad oedd gan neb unrhyw syniad o sut fywyd oedd gen i ym Madagascar. Yna ym 1986, sefydlodd fy ffrind yr elusen Money for Madagascar a dychwelais am fis ar gyfer ymweliad monitro ym 1987. Ers hynny rydw i wedi ymweld â'r wlad bob dwy neu dair blynedd. Mae llawer wedi newid ac nid er gwell bob tro. Roedd y boblogaeth ym 1967 yn 7 miliwn. Nawr mae bron i 33 miliwn yn byw yno ac mae tlodi wedi cynyddu i’r fath raddau fel mai Madagascar yw'r 4ydd wlad dlotaf yn y byd bellach.
Er gwaethaf y tlodi, a'r ffaith bod y goedwig law yn cael ei difa o’r herwydd er mwyn tyfu bwyd, mae'r bobl yn dal i fod mor gwrtais ag erioed ac yn dal i gadw eu synnwyr digrifwch sy'n debyg iawn i’r un Prydeinig. Dywedodd un o fy ffrindiau wrthyf am enwau trefi i'r gorllewin o'r brifddinas Antananarivo sy'n golygu "Tref Mil". Roedd brenin o'r 18fed ganrif a sefydlodd y ddinas yn teimlo bod angen mil o filwyr yn ei fyddin – dyna sy’n gyfrifol am yr enw. Y dref nesaf i'r gorllewin yw Imerintsiatosika (lle roeddwn i'n bennaeth), sy'n golygu "Lle nad oedd y Merina wedi cael eu gwthio" h.y. lle yr enillon nhw frwydr. Y dref nesaf yw Arivonimamo sy’n golygu "Lle Meddwodd y Mil". Yna Miarinarivo sef "Lle Sobrodd y Mil" ac yn olaf, Tsiroanomandidy, sef "Ni fydd Dau yn Rheoli" oherwydd bod y brenin wedi llwyddo i gipio'r trefi yr holl ffordd o'r brifddinas - tua 130 milltir.
Mae teithio nawr yn anodd oherwydd bod y rhan fwyaf o'r ffyrdd mewn cyflwr ofnadwy. Yn 2023 roeddwn i yn y goedwig law yn ymweld â phrosiectau ar ochr ddwyreiniol y wlad pan gawsom neges bod un o'r pontydd ar draws afon fawr wedi cwympo. Sefydlodd yr awdurdodau lwybr amgen ar draws top argae. Roedd y dŵr yn 12" o ddyfnder o leiaf. Y llynedd doedd y bont ddim wedi’i hailadeiladu o hyd, ac roeddwn i yno yn y fan sydd yn y llun!
Er gwaethaf ei holl broblemau, rwy'n caru'r lle ac rwy'n dal mewn cyswllt â llawer o blant ac wyrion fy nghydweithwyr yn yr ysgol. "Fy Ail Famwlad" – dyna yw Madagascar i mi.