Hafan Pobl Dewi: Mehefin 2024 Deall yr Ysgrythur

Deall yr Ysgrythur

Open Bible

Fel nifer ohonoch mae’n siŵr, cefais i fy nghodi ym myd a bywyd yr Eglwys. Roedd fy nhad yn offeiriad plwyf gwledig a Chymraeg ei iaith a ninnau fel plant yn gyfarwydd â mynychu’r boreol weddi a’r hwyrol weddi bob dydd Sul, gydag ysgol Sul yn y prynhawn. Unwaith y mis ar y Sul cyntaf byddem yn cael gwasanaeth Cymundeb.

Er ein bod yn gwybod y gwasanaethau hyn ar gof bron ac yn clywed darlleniadau o’r ysgrythur bob dydd Sul yn ogystal â thalu peth sylw i bregethau fy nhad, ychydig iawn a wyddwn am ystyr yr ysgrythurau. Efallai, i ryw raddau, fod mor gyfarwydd â’r litwrgi’n peri I fi ei adrodd heb dalu fawr sylw i’r cynnwys. Hefyd, roedd Duw a Iesu Grist yn chwarae rhan bwysig yn ein bywydau ond am yr Ysbryd Glân, bach Iawn a wyddwn amdano, ac hyd yn oed llai, ei adnabod. Wedi siarad ag eraill o’m hoedran i, tebyg oedd eu profiad hwy.

Dros y blynyddoedd diwethaf, rwyf wedi bod yn mynychu dosbarthiadau Astudio’r Beibl dan arweiniad y Parchedig Ddr Peter Bement. Mae tua 12 ohonom yn cwrdd yn wythnosol i drafod rhannau o’r Beibl. Mor hawdd yw hi i ddarllen darnau o’r Beibl yn weddol arwynebol, yn enwedig y darnau mwyaf adnabyddus, heb ddeall gwir arwyddocâd y geiriau a’r neges.

Mae bod yn rhan o’r grŵp Astudiaethau Beiblaidd wedi agor fy llygaid a’m meddwl i lawer a oeddwn, hyd hynny ddimond wedi’n rhannol eu deall. Nid fy mod i’n deall y cyfan nawr, ymhell o fod felly! Ond mae’r profiad yma wedi cryfhau fy ffydd oherwydd i fi ddeall yn well fywyd a dysgeidiaeth yr Iesu. A beth am yr Ysbryd Glân? Wel rwyf wedi dechrau deall yn well ei gyfraniad ef i’n bywyd ni ac mai ef yw ein cymorth ni yma ar y ddaear yn ein bywydau bob dydd.

Mae bod yn rhan o grŵp bach fel hwn hefyd yn rhoi’r cyfle i fi ac i’r aelodau eraill drafod ein ffydd, y cryfderau ac efallai’n fwy pwysig, y gwendidau. Mae trafod yn gymorth i ddeall nad dimond fi sy’n cael y cyfnodau yma o wendid ffydd. Mae hefyd yn ysbrydoliaeth i geisio gwneud yn well, ac yn fwy pwysig na hynny hyd yn oed, i roi ffydd yn Nuw yn hytrach na cheisio dibynnu arnom ein hunain.