Hafan Pobl Dewi: Mehefin 2024 Dyfroedd dyfnion

Dyfroedd dyfnion

Cleddau

Galwad i weithredu gan ein Swyddog Gofal a Chynaliadwyedd y Greadigaeth, Marcus Zipperlen.

Mae afonydd a llynnoedd Prydain mewn cyflwr enbyd oherwydd llygredd o ollyngiadau carthffosiaeth, dŵr ffo o gaeau ac ardaloedd trefol, a diwydiant. Nid yn unig y mae’r dyfrffyrdd yn dinoethi bywyd gwyllt ond yn aml maen nhw’n afiach i ni ac i’n hanifeiliaid anwes. Pam ydyn ni yn y fath lanast?

Mae gan gwmnïau dŵr lawer i'w ateb drosto oherwydd eu bod wedi darganfod a manteisio ar y ffaith bod llygredd yn talu. Mae wedi bod yn fwy proffidiol peidio â buddsoddi yn y gwaith trin angenrheidiol ac mae'r awdurdodau rheoleiddio wedi bod yn rhy wan i'w galw i gyfrif. Yn yr un modd, gwelodd y blynyddoedd cyni doriadau sylweddol yng nghyllidebau Asiantaeth yr Amgylchedd a Chyfoeth Naturiol Cymru fel nad oedd modd iddyn nhw gyflawni eu gwaith o fonitro a gorfodi safonau.

Mae Cymru'n perfformio'n well na Lloegr gyda 44% o'n hafonydd yn ennill statws ecolegol da o'i gymharu â dim ond 15% dros y ffin. Serch hynny, dyfrffordd fwyaf Esgobaeth Tyddewi, aber Afon Cleddau, yw un o'r rhai sydd wedi'i difrodi fwyaf yn ecolegol yng Nghymru.

Beth allai'r Eglwys ei wneud i helpu i adfer ein hafonydd i gyflwr da? Dyna’n union y holodd yr Archesgob Andrew John i’w hun ac aeth ati i lunio ymateb sylweddol. Gan gydnabod cyrhaeddiad eang yr Eglwys yng Nghymru, ei hannibyniaeth a'i safle o ymddiriedaeth yn gyffredinol mewn bywyd dinesig, penderfynodd fanteisio ar y priodoleddau hyn a chynnull cynhadledd o'r rhai sydd â buddiant yn ein hafonydd o bob cwr o Gymru. Ar 7 ac 8 Tachwedd eleni, bydd yr Eglwys yng Nghymru yn cynnal Uwchgynhadledd Adfer Afonydd Cymru lle bydd Dŵr Cymru, ffermwyr, diwydiant, elusennau, academyddion ac eraill yn dod ynghyd i rannu gwybodaeth, trafod y materion, a gobeithio dod o hyd i ffyrdd newydd a chynaliadwy o reoli afonydd Cymru. Dylech gynnwys y fenter hon yng ngweddïau eich plwyf a’ch gweddïau unigol.

I gyd-fynd â gweithredoedd amserol yr Archesgob byddwn yn trefnu rhai digwyddiadau yn Esgobaeth Tyddewi yn ddiweddarach eleni, fis Medi siŵr o fod, gan fynd ati i gymryd camau i ofalu am ein hafonydd mewn ffyrdd ymarferol. Byddaf yn rhannu’r wybodaeth gyda chi unwaith y bydd y cynlluniau mewn lle. Yn olaf, beth allwn ni ei wneud yn ein bywydau bob dydd i helpu i gadw ein dyfrffyrdd yn iach? I ddechrau defnyddiwch gynhyrchion glanhau bioddiraddadwy yn y cartref ac yn yr eglwys. Mae archfarchnadoedd yn eu gwerthu felly dydy hynny ddim yn anodd bellach. Hefyd, ewch ati i leihau eich defnydd o blaladdwyr a chwynladdwyr yn yr ardd a'r fynwent, ac yn olaf, peidiwch â gwaredu gwastraff bwyd i lawr y sinc ond rhowch e yn y compost. Wrth i ni i gyd wneud y pethau bychain, bydd ein heffaith yn fawr.