Hafan Pobl Dewi: Mehefin 2024 Coed Bywyd

Coed Bywyd

Mae'r artist Romola Parish, ordinand yn Ardal Weinidogaeth Leol Bro Teifi, yn disgrifio'r ysbrydoliaeth y tu ôl i'w harddangosfa ddiweddar yn Eglwys Llansteffan

Y celfyddydau creadigol yw ieithoedd fy ffydd ac rwy’n eu defnyddio i archwilio agweddau ar ffydd nad ydynt wedi’u deall eto. Mae'r darnau yn yr arddangosfa yn anarferol ac yn herfeiddiol. Maent yn llywio'r gofod trothwyol rhwng ysbrydolrwydd, rhwng bodau dynol a natur, a rhwng Crist a'r Greadigaeth.

Mae yna amryw ffyrdd o ddarllen a deall y darnau fel eu bod yn meithrin cysylltiadau rhwng gwahanol ganfyddiadau o Dduw a'r amgylchedd. Mae'r ffin amwys rhwng mytholegau a chredoau cyn-Gristnogol, Anghristnogol a Christnogol yn cael ei phontio gan ddarnau a ysbrydolwyd gan y Dyn Gwyrdd, a fynegir fel ysbryd y greadigaeth, ac fel Yggdrasil, coeden y byd Llychllynig. Mae ymgorffori deunydd organig - mwsogl, eiddew, mieri a brigau helyg - yn cysylltu'r gelfyddyd a grëwyd â'r byd naturiol y mae'n ei gynrychioli.

Trees of Life 1

Trees of Life 2

Ysbrydolwyd The Dreaming Rood, cerflun o decstilau 2.5m o uchder gan yr Yw Gwaedlyd ym mynwent yr eglwys yn Nanhyfer a chan lenyddiaeth, megis y gerdd Eingl-Sacsonaidd The Dream of the Rood sy'n adrodd hanes y croeshoeliad o safbwynt y Groes. Mae'n ddynol ac yn goeden, gan adlewyrchu presenoldeb Duw yn ei greadigaeth, a phrynedigaeth Crist o'r greadigaeth ac o ddynoliaeth.

Arddangosfa deithiol yw Coed Bywyd, sydd ar gael i eglwysi ar draws yr esgobaeth a thu hwnt. Os oes gennych ddiddordeb ei chynnal, cysylltwch â Romola trwy ei blog: https://romolablog.wordpress.com