Hafan Pobl Dewi: Mehefin 2024 Llwybr Ffydd Afon Teifi

Llwybr Ffydd Afon Teifi

Cyfle newydd i dwristiaid a phererinion fel ei gilydd fynd ar grwydr ar hyd un o'n dyffrynnoedd harddaf

Menter genhadol yw gwefan Llwybr Ffydd Teifi, a chaiff ei lansio cyn hir gan Ardal Gweinidogaeth Leol Llanbedr Pont Steffan. Mae yna ddwy ar hugain o eglwysi hanesyddol braf yn ymestyn ar hyd rhannau uchaf Afon Teifi, ac mae'r Ardal Weinidogaeth yn awyddus i'w cefnogi a diogelu eu dyfodol. Ond sut gall yr eglwysi hyn ffynnu, neu hyd yn oed oroesi, yn yr oes hon pan fo perthnasedd addoliad Cristnogol ar drai ym Mhrydain?

Wrth ymchwilio i hanes rhai o'r eglwysi hyn a gweld eu cyflwr, gwelodd yr hanesydd, y Dr John Hammond sydd hefyd yn Gadeirydd yr Ardal Weinidogaeth, fod cyfle i fanteisio ar dreftadaeth ac adnoddau’r rhyngrwyd i roi cyhoeddusrwydd i'r eglwysi a'u neges Gristnogol. Gallai hanes yr eglwysi, eu pensaernïaeth, y lleoliadau gwledig, hardd, a’r tu mewn artistig ddenu cynulleidfa sylweddol na fyddai fel arall yn ymwybodol o'u bodolaeth na'u pwrpas. Gallai hyn, wedyn, helpu i adfywio'r eglwysi a chreu incwm ychwanegol sy’n fawr ei angen.

Aeth John ar ofyn yr arbenigwr, y Dr Martin Crampin, a aeth ati i ddylunio ac adeiladu'r wefan, yn ogystal â darparu'r ffotograffiaeth wych a chyfrannu at y wybodaeth am yr eglwysi. Gyda chymorth yr Archddiacon Eileen Davies a chefnogaeth ariannol yr esgobaeth, mae'r fenter bron â dod i fwcwl, wrth i'r wefan gael ei chyfieithu i'r Gymraeg.

Betws Bledrws Window [Teifi Faith Trail]

Llanwenog Font [Teifi Faith Trail]

Mae gan bob eglwys ei thudalen gwe ei hun, sy’n cydblethu trwy amrywiol themâu y gellir eu harchwilio, megis coed yw hynafol, bedyddfeini canoloesol a gwydr lliw. Roedd Martin a John yn awyddus i arddangos celfyddyd a phensaernïaeth yr eglwysi, a gwneud y wefan mor ddeniadol â phosibl. Mae’r lluniau trawiadol o gerfluniau yn cynnwys casgliad hynod o fedyddfeini carreg cerfiedig, fel y rhai a geir yn Llanwenog, Maestir a Phencarreg, a gwydr lliw bendigedig yn eglwysi Betws Bledrws a Llanbedr Pont Steffan.

Mae'r wefan hefyd yn cynnwys straeon am gymeriadau hanesyddol sydd wedi eu nodi ar gofebion yn yr eglwysi. Yn Llangeitho mae Daniel Rowlands, yn Llanllwni mae’r Llyngesydd John Thomas a oedd yn gapten beiddgar ar ffrigad yn Rhyfel Annibyniaeth America, ac yn Llanwenog mae cofeb i Joseph Rubens, arlunydd a oedd yn ffoadur o Wlad Belg adeg y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ac, wrth gwrs, mae gan hen seintiau’r Cymry gysylltiadau â llawer o'r eglwysi, yn eu plith mae ein nawddsant Dewi, sydd â chysylltiad hŷn â Llanddewi Brefi na Thyddewi hyd yn oed. Mae yna garreg wedi’i hadeiladu yn rhan o fur yr eglwys sy’n cyfeirio at bwysigrwydd y sant yno ar ddechrau'r nawfed ganrif.

Mae bwriad cael canolfan ymwelwyr yn un o'r eglwysi mwyaf canolog ac mae'r Ardal Weinidogaeth yn edrych ymlaen at groesawu twristiaid yno, a’u hannog i grwydro ymhellach i ddarganfod rhai o addoldai bendigedig yr ardal ac ymgyfarwyddo â threftadaeth Gristnogol Dyffryn Teifi.

https://teififaithtrail.wales/