Cymryd seibiant

Mae cwmni yswiriant Ecclesiastical wedi cyhoeddi bod eu Dyfarniadau Bwrsariaeth Gweinidogaeth (MBAs) ar gael unwaith eto.
Mae'r MBAs wedi bod ar waith ers dros 35 mlynedd ac maent ar agor i bob clerig Anglicanaidd, ac yn darparu cymorth ariannol ar gyfer seibiannau sabothol a phrosiectau a gynlluniwyd ar gyfer 2025.
Diben sylfaenol cyfnod sabothol yw i'r ymgeisydd gael amser i orffwyso ac adfywio’r enaid yn bwrpasol a chytbwys. Dros y blynyddoedd, mae cyllid wedi bod ar gael ar gyfer ystod amrywiol o brosiectau o ddatblygu gweinidogol, pererindodau neu hyd yn oed fynd ar drywydd breuddwydion gydol oes.
Meini prawf
- Rhaid i bob ymgeisydd fod wedi bod yn y weinidogaeth ordeiniedig am o leiaf 10 mlynedd a heb gymryd cyfnod sabothol yn y saith mlynedd diwethaf.
- Darperir dyfarniadau am absenoldeb estynedig i astudio yn unig (gellir ystyried ffioedd ar gyfer cwrs yn ystod yr absenoldeb astudio estynedig).
- Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio'r ffurflenni a ddarperir.
- Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw sicrhau bod y ffurflenni cais a’r gymeradwyaeth yn cael eu cyflwyno.
- Rydym yn arbennig o awyddus i weld mwy o gyfnodau sabothol sydd â’r nod o gefnogi'r ymgyrch carbon sero-net.
Rhaid i bob ymgeisydd gwblhau’r ffurflenni cais erbyn 30 Medi 2024. Dylid e-bostio’r ffurflenni wedi’u llenwi i mba@ecclesiastical.com
Dyfernir ceisiadau 2025 ym mis Tachwedd 2024 a bydd y dyfarniadau'n cael eu gwneud ym mis Rhagfyr 2024.
Bydd y swm a roddir ar gyfer dyfarniadau unigol yn dibynnu ar y gwerth i’r ymgeisydd unigol, y budd i'r eglwys yn ehangach, cymorth ariannol a addawyd eisoes o ffynonellau eraill a chryfder cymeradwyaeth yr Esgob neu'r Archddiacon sy'n cefnogi'r cynlluniau.
I gael rhagor o wybodaeth ac i lawrlwytho ffurflen gais, ewch i www.ecclesiastical.com/mba