Hafan Pobl Dewi: Mehefin 2024 Taizé - Gweddïo trwy Gerddoriaeth, Gair a Thawelwch

Taizé - Gweddïo trwy Gerddoriaeth, Gair a Thawelwch

Taize Service Dafen

Suzy Bale yn disgrifio noson gyda Ffrancwr ysbrydoledig

Ar 23 Ebrill, roedd Eglwys Sant Mihangel, Dafen, Llanelli wedi ei haddurno'n hyfryd ac yn llawn ar gyfer noson o weddi yng nghwmni’r Brawd Jean-Patrick o Gymuned Taizé yn Ffrainc.

Dechreuodd y noson gydag amser o weddi yn arddull Cymuned Taizé, sydd wedi’i lleoli ym Mwrgwyn, Ffrainc. Cymuned o Frodyr eciwmenaidd ydyn nhw, sydd wedi bod yn croesawu miloedd lawer o bererinion ac ymwelwyr ers degawdau. Mae'r weddi yn cynnwys caneuon neu siantiau o Taizé, adnodau syml o'r ysgrythur, o'r Salmau sy’n cael eu hailadrodd drosodd a throsodd, darlleniadau o'r Beibl, yna cyfnod o dawelwch.

Roedd yna foment arbennig iawn pan gyfarfu Frère Jean-Patrick a minnau â Bernard, sy'n byw ger Llanelli, ond a gafodd ei eni cwta filltir o Taizé, ac a fu’n gweddïo gyda'r brodyr yn blentyn ac, fel dyn ifanc, a helpodd i adeiladu Eglwys yr Atgyfodiad.

Ar ôl y weddi, cawsom luniaeth yn y neuadd a buom yn gwylio fideo am fywyd a gweddi yn Taizé. Bu’r Brawd Jean-Patrick yn sôn mwy wrthym am fywyd y Gymuned ac atebodd gwestiynau am y Gymuned, am weddi, ac am fynd ar bererindod i Taizé.

Yr hyn a greodd yr argraff fwyaf ar bobl oedd harddwch y gerddoriaeth a bod y gofod a’r distawrwydd wedi ein helpu ni i gyd a'n gwahodd i weddi.

Mae'r brawd Jean-Patrick yn hanu’n wreiddiol o Chennai (Madras) yn ne-ddwyrain India. Aduniad oedd y noson ar ystyr arall hefyd gan ei fod ef a minnau wedi bod yn wirfoddolwyr yn Taizé gyda'n gilydd dros ddeng mlynedd ar hugain yn ôl. Roedden ni mor ddiolchgar bod y Brawd Jean-Patrick wedi dod o hyd i amser ar ei daith pythefnos o ogledd yr Alban i dde Lloegr i ymweld â Chymru am y tro cyntaf.

Roedd llawer o bobl yn wirioneddol ddiolchgar am y noson hon gyda'n gilydd ac rydyn ni’n chwilio am bobl a lle a allai fod â diddordeb mewn ymgynnull yn fwy rheolaidd i gynnal Gweddi Taizé. Os hoffech gyfarfod i weddïo eto, neu os hoffech ymuno â ni, yna cysylltwch â thîm y weinidogaeth ym Mro Lliedi neu Fro Glannau Tywyn.