Dringwyr cymdeithasol
Mae llawer yn credu bod planhigion dringo yn ddinistriol i wal frics neu wal garreg, am eu bod yn achosi difrod neu’n erydu’r wal ac yn cynyddu'r perygl o leithder yn y waliau. Mae Huw Davies yn anghytuno
Yn ddiweddar, cyhoeddwyd canlyniadau astudiaeth a gynhaliwyd gan y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol mewn cydweithrediad â Phrifysgol Reading. Dechreuodd yr astudiaeth yn 2020, ac yn y cyfnodolyn gwyddonol, Building and Environment datgelwyd rhai darganfyddiadau annisgwyl.
Roedd yr astudiaeth yn canolbwyntio ar dair rhywogaeth o blanhigion dringo – Iorwg (Hedera Helix), y Dringwr Fflamgoch Tri-Phigyn (Parthenocissus tricuspidata) a'r Trilliw ar Ddeg Dringo (Pileostegia viburnoides) – a'u heffaith ar dymheredd a lleithder wrth eu tyfu fel gorchudd ar adeiladau.
Roedd y cysgod a fwriwyd gan y dail yn oeri ac yn lleihau tymheredd y waliau mewnol ac allanol a hefyd, felly, yn effeithio ar y gwahaniaethau mawr rhwng tymereddau’r dydd a’r nos, sy'n ffactor pwysig yn y difrod i arwynebau strwythurol.
Roedd y rhywogaeth Iorwg yn enwedig yn lleihau ac yn sefydlogi lefelau lleithder cymharol yn ystod yr haf a'r gaeaf, gan unwaith eto leihau'r posibilrwydd o ddifrod i wyneb y gwaith carreg a brics a achosir gan amrywiadau sylweddol yn y graddiant lleithder. Tybir bod y gôt amddiffynnol fyw hon yn lleihau biliau gwresogi gymaint ag 20% yn ystod misoedd y gaeaf.
Cadarnhaodd yr astudiaeth ganfyddiadau arbrawf blaenorol a gynhaliwyd ar adeiladau hanesyddol yn 2011, a oedd yn cymharu'r rhai â waliau noeth, allanol â'r rhai wedi'u gorchuddio â haen amddiffynnol o ddail. Daeth yr astudiaeth hon i'r casgliad bod rhywogaethau o Iorwg yn darparu math o insiwleiddiad byw a all leihau'r tebygolrwydd o ddirywiad strwythurol a achosir gan halen a rhew. Gall hyd yn oed ddal llygredd atmosfferig a allai fod yn niweidiol i’r deunyddiau adeiladu.
Gan ein bod hefyd yn edrych ar greu mannau gwyllt mewn llawer o'n mynwentydd i ddenu bywyd gwyllt, mae gan blanhigion dringo hefyd y budd ychwanegol o ddarparu cynefin da i adar bach, pryfed, gwenyn ac, mewn rhai achosion, fertebratau bach.
I ddyfynnu'r botanegydd James Wong, "Dychmygwch pe bai gennym ddeunydd newydd a allai oeri dinasoedd a thorri biliau ynni, gan hefyd harddu’r amgylchedd a’r cyfan yn costio ffracsiwn o bris dewisiadau eraill....rhywbeth sydd hefyd yn hunanlanhau ac yn garbon negyddol? Y gwir yw bod gennym y deunydd gwyrthiol hwn yn barod, ond yn hytrach na'i werthfawrogi, rydym wedi treulio llawer iawn o amser yn poeni am sut i'w rwygo allan" (New Scientist 30 Mawrth 2024).
Yn hytrach na phryderu am y posibilrwydd y bydd Iorwg yn difrodi waliau ein heglwysi, mae'r dystiolaeth yn awgrymu, er mwyn lleihau ein biliau gwresogi a'n hôl troed carbon ac i leihau niwed i'r waliau cerrig, y dylem fod yn ei annog i dyfu.