Ansicrwydd Radical: gwirionedd a gobaith yn yr Eglwys yng Nghymru
Rob Moore yn adrodd o gyfarfod mis Ebrill y Corff Llywodraethol
Atgoffodd yr Archesgob bawb, yn ei anerchiad fel llywydd, fod yn rhaid i ni, wrth i ni deithio trwy dirwedd ansicr ein hoes, fod yn agored ac yn onest am y cyd-destunau yr ydym yn canfod ein hunain ynddyn nhw. Dim ond drwy adrodd stori onest am ble rydyn ni, a phwy ydyn ni, y gallwn ni fynd ati i arbrofi, a defnyddio’r ymagwedd briodol tuag at ein Hardaloedd Gweinidogaeth Lleol ein hunain a’n cyfleoedd i weinidogaethu wrth iddyn nhw ymddangos yn y cynllun a ddatguddir gan Dduw ar gyfer ein dydd.
Fel rhan o'r anerchiad, tynnodd yr Archesgob Andrew sylw at dri phwynt:
- gwneud mwy, yn well, gyda'n gilydd
- meithrin gwell colegoldeb
- bod yn ddewr a mentro
Yn ystod y sesiwn hawl i holi ac wrth ymgysylltu â'r adroddiadau eraill a gyflwynwyd, myfyriodd aelodau’r Corff Llywodraethol ar yr uchelgeisiau hynny, gan siarad yn gryf o blaid gweithio a dysgu gyda'i gilydd.
Wrth gyflwyno ei fenter Adfer Afonydd Cymru, arweiniodd yr Archesgob ni i fyfyrio ar ein stiwardiaeth unigol a chyfunol o’r greadigaeth, gyda'r siaradwyr arbenigol yn annog dadl iach a oedd yn modelu sut y gallwn "ymarfer celfyddyd chwilfrydedd a [bod yn barod] i esblygu" wrth i ni ystyried ein huchelgeisiau a'n strategaethau, ar lefel leol a chenedlaethol. Yn hytrach na bod yn Eglwys adweithiol, bod yn un ragweithiol, "sy’n gallu dysgu, datblygu a thyfu" fel y gallwn arwain y sgwrs o safbwynt ffydd yn hytrach na cheisio cael ein llais wedi’i glywed unwaith y bydd eraill wedi gosod yr agenda.
Gwelodd yr Ail ddiwrnod ddadl ar gynnig Aelodau Preifat i gyfundrefnu yn y Telerau Gwasanaeth y confensiwn y mae'r Esgobion wedi'i annog o gyfnod di-waith 48 awr bob mis, ond hefyd i ymestyn yr hawl ar ôl y Nadolig a gwyliau'r Pasg o chwech i saith diwrnod.
Gyda phum gwelliant arfaethedig i'r cynnig gwreiddiol gallem fod wedi cael dadl hir. Fodd bynnag, cynigiodd Esgob Llanelwy Gynnig Gweithdrefnol i atal dadl heb bleidlais ar y cynnig a chafodd y cynnig hwn ei basio gan fwyafrif clir - gyda sicrwydd gan gadeirydd y sesiwn, Tim Llewelyn, y byddai'n dod â'r mater gerbron y Pwyllgor Sefydlog fel y gallrnt ystyried llesiant clerigion a lleygion yn fwy eang a chyflwyno cynigion i'r Corff Llywodraethol yn y dyfodol agos.
Wrth i ni baratoi i adael, cawsom ein siarsio gan yr Archesgob Andrew i rannu'r hyn a oedd wedi digwydd yn y Corff Llywodraethol, ac ymrwymo i wneud gwaith Duw yn y byd, gan wybod fod Duw yn addo bod gyda ni a darparu popeth sydd ei angen arnom, fel y gallwn, fel yr anogodd yr Archesgob ni, fod yn "... ddibynadwy a dewr. Ac i fentro'n dda".