Ordeiniadau, yn y dull Affricanaidd
John Holdsworth yn tystio i waddol cenhadon Cymreig o Oes Fictoria – ac yn cymryd rhan ynddi
Mewn cae ar lan llyn, mae Undeb y Mamau yn cynnal Rali awyr agored. Roedd 4,400 o fenywod wedi dod ynghyd, pob un wedi'i gwisgo’r un fath yn nillad glas Undeb y Mamau yn canu a chyhwfan o dan wres 32 gradd, ar ôl brecwasta’n helaeth, tra bod ambell hipopotamws yn nofio’n dalog heibio, wedi’i ryfeddu braidd gan yr olygfa reit wahanol hon. Mae sawl cliw yma sy’n dangos nad yng Nghymru y cynhaliwyd y gynhadledd hon.
Mewn gwirionedd, Esgobaeth Anglicanaidd Thika yn Kenya yw’r lleoliad, sydd wedi'i gefeillio â Chaerwysg, a Chyprus a'r Gwlff. Mae’n bartneriaeth driphlyg gyda threfniadau cyfnewid rheolaidd o wahanol fathau, sy’n llwyddo i gadw'r berthynas yn ffres. Rydw i yma i arwain encil cyn-ordeinio ar gyfer naw offeiriad newydd, ac i bregethu yn Saesneg yn yr Ordeiniad ac yng ngwasanaeth Pasg y Gadeirlan.
Mae Undeb y Mamau yn hynod ddylanwadol ledled eglwysi Affrica, a dydy Kenya ddim yn eithriad. Mae'r lleoliad hwn wrth ymyl cyfleuster newydd a gynlluniwyd gan Undeb y Mamau fel man lle gall teuluoedd fwynhau hamdden heb alcohol. Mae ganddo ystafelloedd cyfarfod a bwyty gwych, cyfleusterau chwarae ac ardaloedd gwyrdd mewn lleoliad deniadol.
Mae'r cyfyngu ar alcohol yn rhannol oherwydd problemau cymdeithasol cyfredol yn y wlad, ond yn bennaf oherwydd gwaddol y cenhadon, Piwritanaidd eu dylanwad, a ddaeth â Christnogaeth yma gyntaf. Mae'n rhaid bod rhai ohonyn nhw wedi bod yn Gymry oherwydd rydw i’n cael fy nharo gan nifer yr emynau sy'n cael eu canu i alawon Cymreig ar eiriau Kikuyu. (Gwahoddiad a Deemster yn ddau o blith nifer a glywais). Gwelais dystiolaeth bellach wedyn mewn seremoni o aildderbyn aelodau adeg y cymundeb yn y gwasanaeth ar Sul y Blodau. Rhoddwyd croeso cynnes yn ôl gan 500 o bobl i ferch ifanc (gan adleisio'r gorfoledd yn y nefoedd dros un pechadur sy'n edifarhau), ar ôl iddi roi genedigaeth i blentyn a hithau heb briodi. Doedd dim gorfodaeth ar y tad i gyflawni’r un broses.
Mae Thika yn Esgobaeth gymharol newydd, a grëwyd wrth uno darnau o dair esgobaeth arall yn 1998. Mae tref Thika yn gymharol lewyrchus, ar un adeg roedd yn ganolfan cynhyrchu coffi a bellach mae’n ganolfan tyfu pîn-afal - mae'r caeau'n estyn am filltiroedd. Roedd yno 50 o eglwysi bryd hynny. Mae ganddi 205 o eglwysi nawr ac mae eglwysi newydd yn cael eu plannu - tair y flwyddyn. Mae gan yr Esgob Julius, sydd wedi'i hyfforddi'n rhannol yn y DU, weledigaeth ac egni. Mae'r niferoedd yn enfawr: 1600 yn yr Ordeinio a 2000 yn y gwasanaeth ar Sul y Pasg - un o bedwar y bore hwnnw, heb gyfrif y plant. Mae'n debyg mai fel hyn oedd hi yng Nghymru unwaith, ond heb unrhyw hipopotamws!