Hafan Pobl Dewi: Mehefin 2024 Ar y ffordd unwaith eto

Ar y ffordd unwaith eto

Youth Pilgrimage 2023

Mae Sophie Whitmarsh wrthi’n paratoi at bererindod ieuenctid esgobaethol arall ac yn awyddus i weld beth sydd gan Dduw ar eu cyfer.

Mae pererindod ieuenctid yr esgobaeth wedi ei chynnal ddwywaith erbyn hyn. Ar gyfer y flwyddyn gyntaf ymunodd deg pererin â’r fenter. Dychwelodd y rhan fwyaf ar gyfer yr ail flwyddyn ac roedd yno 24 i gyd. Fy ngweddi eleni yw y bydd rhagor o bobl ifanc yn gallu profi'r cariad a'r agosatrwydd at Dduw a brofwyd gennym i gyd y llynedd.

Mae'n dechrau ar 29 Gorffennaf ac yn gorffen ar 2 Awst. Byddwn yn aros yn y Bunk Barns yn Nhyddewi ac eleni rydyn ni wedi llogi bws i gasglu a gollwng y pererinion o’u gwahanol gartrefi yn yr esgobaeth. Mae’r archebion wedi dechrau ein cyrraedd, ac mae'r dyddiad cau ar ddiwedd mis Mehefin. Felly, os ydych chi'n gwybod am unrhyw un a hoffai ymuno â ni - sydd ar droi’n 11 oed (blwyddyn 6 yn yr ysgol) hyd at 17 oed - gofynnwch iddyn nhw archebu lle cyn gynted â phosib yn hytrach na’i gadael hi tan y funud olaf. Mae ffurflenni archebu ar gael ar y wefan Plant, Ieuenctid a Theuluoedd.

Eleni, bydd y bererindod yn seiliedig ar ein thema esgobaethol, sef Halen a Goleuni. Yn ystod y pum diwrnod, byddwn yn cerdded llwybr yr arfordir, gan ymweld ar hyd y ffordd â Chapel Non, Traeth Mawr, a Fferm Treginis i blant y Ddinas, lle rydyn ni’n gobeithio eu helpu gyda'u gwaith banc bwyd. Yna, wrth gwrs, mae eglwys gadeiriol a chysegrfa hyfryd Tyddewi, lle byddwn yn treulio peth amser yn dod i adnabod y lle ac yn addoli. Os nad yw hynny'n ddigon, bydd gemau a gweithgareddau, straeon ac astudiaethau beiblaidd, amser i siopa am anrhegion, a digon o fwyd. Bydd amser i gael hwyl a sbri ac amser i fyfyrio ac ymdawelu.

Angylion

Os hoffech gefnogi'r bererindod, mae yna gynllun Angylion ar gyfer hyn, lle gall unigolion neu eglwysi noddi'r bererindod. Yn gyfnewid am nawdd, byddwch yn derbyn cerdyn post gan y pererinion yr ydych wedi eu noddi a byddwn yn gweddïo drosoch drwy eich enwi wrth y gysegrfa. Hefyd, os byddwch yn noddi fel eglwys, bydd aelod o'r tîm, ynghyd â phererin o bosibl, yn ymweld â'ch eglwys ar ôl y digwyddiad i roi sgwrs am y profiad ac am y modd mae eich cyfraniad wedi helpu.

Mae gwybodaeth ar gael am y bererindod a'r cynllun angylion ar wefan Plant, Ieuenctid a Theuluoedd, neu gallwch gysylltu â'r Parchedig Sophie. www.stdavidscyf.org.uk; sophiewhitmarsh@cinw.org.uk