Dim offeiriad, dim eglwys?
Jeremy Martineau yn ystyried ystadegau sy'n awgrymu rhai ffyrdd amgen o docio er mwyn tyfu
Esgobaeth wledig yw Tyddewi yn bennaf, yn debyg iawn i rai Lloegr lle bu Carol Roberts a Leslie Francis yn adrodd ar ymchwil yn y cyfnodolyn Rural Theology (2006 Cyf. 4 rhan 1).
Mae eu papur Church Closure and Membership Statistics yn rhybudd clir os mai agwedd o reoli o'r brig i lawr sydd gennym, gan weithredu fel pe bai darpariaeth eglwysig yr un fath â buddsoddi mewn archfarchnadoedd. Mae'r erthygl yn egluro’r dadleuon o blaid ac yn erbyn cau eglwysi, ond mae'n rhannu data ar bresenoldeb mewn eglwysi, sy'n dangos bod y dirywiad presenoldeb mwyaf dwys adeg y Pasg a'r Nadolig, yn yr esgobaethau hynny a gaeodd y gyfran fwyaf o eglwysi. Mae llawer wedi newid ers eu hymchwil, gyda mwy a mwy o seciwlareiddio a'r boblogaeth gyfan yn heneiddio.
Yr hyn sy'n amlwg yw bod pobl y wlad yn llai parod na phobl y dref i drosglwyddo eu teyrngarwch i eglwys arall, os yw'r un roedden nhw’n ei mynychu yn cau. Mae angen mwy o ymchwil i natur y teyrngarwch hwn. Efallai y bydd clerigion yn gweld bai ar aelodau cynulleidfaol am ddangos y fath deyrngarwch ystyfnig, ond a oes modd i hyn ddod yn sylfaen i ffordd newydd o fod yn ddylanwad Cristnogol yn y gymuned ehangach? Efallai y bydd angen sgiliau a gweledigaeth newydd.
Ai'r dull Anglicanaidd, a rennir gan yr Eglwys yng Nghymru, yw na all eglwys fodoli heb offeiriad? Neu a allai dull yr Eglwys Fethodistaidd yn Lloegr fod yn fwy priodol – sef sicrhau presenoldeb Cristnogol ym mhob cymuned?
Wrth i ganoli a thorri costau effeithio ar bob gwasanaeth cyhoeddus, gall cymunedau gwledig deimlo eu bod yn cael eu hanghofio’n llwyr. Ydy hyn yn gyfle i ailfeddwl ym mha ffurf y gallai cymuned Gristnogol leol fodoli, trwy gynnwys gweithgareddau heblaw addoli o bosibl – tai, rhannu trafnidiaeth, mynd i'r afael â thlodi, ymateb i'r cynnydd mewn salwch meddwl? Trwy ymwneud â'r meysydd allweddol hyn, ac eraill, gallai hynny fod yn fynegiant clir o'r ffydd Gristnogol – a bod yn halen y ddaear. Mae yna lawer o enghreifftiau da o adeiladau eglwysig yn dod yn llwyfan ar gyfer menter gymunedol newydd. Mae angen helpu cynulleidfaoedd sy'n heneiddio i freuddwydio breuddwydion am ffyrdd newydd a gwahanol i’w hannwyl eglwys wasanaethu'r gymuned.
Yn ein hardal esgobaethol mae yna enghreifftiau da o Gristnogion yn cyfarfod ar-lein neu mewn mannau sy'n fwy cyfforddus nag eglwysi oer, gydag arweinwyr sydd efallai heb fod trwy'r sianeli swyddogol. Efallai bod Ysbryd Duw yn ymsymud y tu hwnt i'r strwythurau y mae'r esgobaeth yn eu hadnabod.