Cytûn - dan reolaeth Newydd
Mae Cytûn (Eglwysi ynghyd yng Nghymru) wedi penodi Dr Cynan Llwyd fel eu Hysgrifennydd Cyffredinol newydd. Mae'n olynu'r Parchedig Siôn Brynach sydd bellach yn offeiriad llawn amser gyda'r Eglwys yng Nghymru.
Mae Dr Llwyd yn frodor o Aberystwyth ond bellach yn byw yn Grangetown yng Nghaerdydd. Mae'n ddiacon yn Eglwys Gynulleidfaol Gymraeg Ebeneser yng Nghaerdydd ac yn un o arweinwyr Angor Grangetown, un o fentrau arloesol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.
Mae ganddo brofiad helaeth o weithio gydag eglwysi ac elusennau yng Nghymru. Bu'n gweithio fel cynorthwyydd bugeiliol yn eglwysi Mihangel Sant a’r Santes Fair, Aberystwyth, cyn cael ei benodi'n Swyddog Plant a Phobl Ifanc Llenyddiaeth Cymru.
Mae wedi gweithio i Cymorth Cristnogol ac ar hyn o bryd mae'n Bennaeth Tearfund yng Nghymru. Mae hefyd yn awdur.
"Mae'n anrhydedd ac yn fraint cael fy mhenodi'n Ysgrifennydd Cyffredinol Cytûn," meddai Dr Llwyd. "Rwy'n edrych ymlaen at gydweithio gydag eglwysi Cymru wrth i ni geisio ewyllys Duw gyda’n gilydd, er mwyn iddynt fod yn un fel yr ydym ni yn un" (Ioan 17:22). Mae'n gyfnod cyffrous a heriol i ni fel eglwysi a gweddïaf y byddwn yn tyfu'n nes at Dduw ac at ein gilydd gyda threigl amser.”