Caru, colli a chydnabod
Mae Euryl Howells, Caplan i Fwrdd Iechyd Hywel Dda, yn canmol cyflwyno’r Tystysgrifau Colli Babi newydd
Yn aml, dydych chi ddim yn gwybod bod angen rhywbeth arnoch chi nes ei fod yn cael ei gynnig. Dyna fantais tystysgrifau newydd colli babi y Llywodraeth.
Ers mis Chwefror 2024, mae pobl sydd wedi colli babi cyn 24 wythnos o feichiogrwydd bellach yn gallu gwneud cais am dystysgrif er cof am eu babi. Mae babi a gafodd ei eni cyn neu ar ôl 24 wythnos o feichiogrwydd sy'n dangos arwyddion o fywyd ond sy'n marw wedi hynny o fewn 28 diwrnod yn cael ei gofrestru fel marwolaeth newydd-anedig.
Mae beichiogrwydd a genedigaeth bob amser wedi cynnwys risg feddygol. Ni ddylai’r un rhiant brofi marwolaeth babi, ond mewn byd amherffaith bydd yr eiliadau trasig hyn yn digwydd. Profiad trasig ydyw nid cosb.
Yn frawychus, mae rhieni'n dweud nad oes bron iawn neb yn deall eu gofid wrth i ran ohonynt ddiflannu. Maen nhw’n cael eu 'clwyfo a'u dryllio' er gwaethaf presenoldeb, y distawrwydd sy’n mygu, y golled gudd.
Mae'n rhaid i chi fod wedi ‘cerdded milltir yn y mocasins’ i adnabod y myrdd o oblygiadau bugeiliol, ysbrydol a chrefyddol. Mae angen cydnabod y drasiedi. Yn fy 22 mlynedd mewn gofal iechyd, rwy’n gobeithio bod gweinidogaeth argyfwng caplaniaid yn arwydd pendant o gariad eithaf Duw pan fo ystyr, pwrpas a hunanwerth ar drai.
Mae prosesu beichiogrwydd a cholled newydd-anedig yn gymhleth; gyda’r statws o fod yn rhiant yn cael ei bylu, ei sgubo ymaith, yn anghyflawn ac yn analluog.
Rydym yn achredu ac yn caniatáu i rieni ystyried a chreu eu gweithred o gadarnhau a chofio eu hunain. Rydym yn bwrw golwg ar litwrgi, defodau a seremonïau ac yn gwrando'n astud, ar obeithion a breuddwydion, ar ofnau a phryderon, ar y chwerthin a'r boen. Mae caplaniaid yn bresenoldeb cyson, yn wahanol i nyrsys a meddygon sydd ar rota. Does dim ymyriadau meddygol a nyrsio i holi a ydy seremonïau enwi a/neu fendithio, neu fedyddio os yn bosibl, yn briodol i gofnodi a nodi bywyd nad yw wedi goroesi.
Mae gwyliau Cristnogol y Nadolig a'r Pasg yn dangos sut mae Duw yn rhoi gobaith mewn unrhyw adfyd. Mae Duw yn y caledi, yn y galar a'r salwch, yn stormydd y byd hwn – mae gobaith yn canfod ffordd. Nid profiad unigol, ynysig yw gobaith - nid yw'n haniaethol nac yn ddamcaniaethol. Mae gobaith yn digwydd pan fydd pobl yn dod at ei gilydd yn ystod y cyfnod mwyaf enbyd. Hyd yn oed os nad oes gan y rhieni ffydd, os ydych chi'n gwasanaethu trwy fod yn agored i bresenoldeb dioddefaint Duw yn eu dioddefaint, i mi fel Caplan mae'n sianel o iachâd dwyfol. Gan ddilyn esiampl Iesu, fe'n gelwir i gyflawni’r weinidogaeth ofal hyd at ei chwblhad.