Hafan Pobl Dewi: Mehefin 2024 Barnwyr, Brenhinoedd, Patriarchiaid a Phroffwydi

Barnwyr, Brenhinoedd, Patriarchiaid a Phroffwydi

Lorna Bradley yn mynd am dro drwy'r Hen Destament

Mae Walk Through the Bible wedi bod ar waith ers 40 mlynedd ac yn eu datganiad o ffydd (https://www.bible.org.uk/wtb_Statement_of_Faith.php) maen nhw’n cyflwyno eu hunain drwy’r hyn maen nhw’n ei wneud, ac yn llwyddo i gyrraedd 130 o wledydd ledled y byd.

Trwy weithio mewn ysgolion, colegau ac eglwysi, maen nhw’n cyflwyno'r Ysgrythur ac yn credu bod deffro diddordeb pobl yn galluogi’r ysbryd i weithio ynddyn nhw.

Yn niwedd Ebrill, ym Mhorth Tywyn, cafwyd cyflwyniad o’u fersiwn cryno o’r Hen Destament i oedolion - 40 o straeon Beiblaidd o'r Hen Destament yn crynhoi'r agweddau ysgrythurol allweddol ac yn cysylltu'r cymeriadau pwysicaf mewn modd sy’n dangos presenoldeb Duw yn eu bywydau a dylanwad Duw a’i law nerthol yn natblygiad pobl Dduw.

OT Bible Course 2 [Walk Through the Bible]

Cafodd Tom – y cyflwynydd o brif swyddfa'r DU - gwmni dros 40 o bobl o Abertawe ac Aberhonddu, Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion. Roedden nhw’n amrywio o ran oedran o 11 i 80 oed – wedi’r cyfan, mae’r ysgrythur yn parhau i’n haddysgu!

Dechreuodd diwrnod gweithgar a llawn hwyl gydag ychydig o ddaearyddiaeth – cynefino â'r gwledydd a'r llwybrau a gymerwyd gan y patriarchiaid, y brenhinoedd a’r breninesau a’r proffwydi wrth iddyn nhw frwydro am dir, am ryddid a brwydro i ateb galwad Duw.

Gan ddechrau yn Genesis, cawsom ein tywys drwy hanes y cenhedloedd, caethwasiaeth a rhyddid wrth i’r rhyfelwyr adennill tir Duw (Joshua). Yna’r Barnwyr a geisiodd gynnal y gyfraith, y Brenhinoedd a oedd yn gyfan gwbl o blaid Duw (Dafydd) a'r rhai a droes eu cefn arno (Saul). Y gwersi a ddysgwyd ac a anghofiwyd gan y bobl a chanlyniadau offrymau i ofyn am faddeuant, a gwleddoedd i ddweud diolch.

Clywsom am ddoethineb y proffwydi, yr arweinwyr mawr a oedd wedi cadw ymdeimlad o genedligrwydd er gwaethaf rhyfeloedd a gorthrymder; dinistrio’r deml a'i hailgodi - symbol o ailadeiladu cenedl a ddychwelodd o alltudiaeth. A chawsom ein cyflwyno i'r disgwyl - yr addewid y byddai Meseia yn dod a'r teimlad rydyn ni i gyd yn ei rannu wrth i ni aros unwaith eto am ddyfodiad Crist.

Roedd pawb wedi mwynhau’r diwrnod. Yn flinedig (ond nid yn newynog!), aeth llawer i brynu beiblau arbenigol a llyfrau ychwanegol i fynd adre gyda nhw ynghyd â llyfr y cwrs, gan ofyn pryd fydden ni'n cynnal y fersiwn ar gyfer y Testament Newydd - rhywbryd y flwyddyn nesaf gobeithio!

Ydych chi eisiau bod yn gyflwynydd mewn ysgolion? Cysylltwch â Tom Greene tom@bible.org.uk