Chwilota am Gapeli’r Ynys
David Gleed yn argymell ymweld ag Ynys Dewi
Ar orwel pell, mae’r ynysoedd yn ein cymell. Yn ddi-ffael, hyd yn oed ar ddyddiau diflas, llaith a llwyd. Mae yna rywbeth dirgel, hudol yn ein denu, a phethau i'w darganfod... ac mae cyrraedd yno bob amser yn gymaint o antur!
Mae yno dynfa ysbrydol hefyd. Mannau diarffordd, ymhell o'r tir mawr, lle mae'r greadigaeth yn anhydrin a’r bwlch rhwng nef a daear yn gallu ymddangos yn rhyfeddol o denau.
Nid yw’n syndod felly, fod capeli bach a chelloedd meudwyiaid wedi eu codi ar lawer o'r ynysoedd dros y canrifoedd a phan oedd y dynfa ar ei hanterth, a gofod a thir ar gael, codwyd eglwysi a mynachlogydd mwy o faint.
Wrth edrych ar gell meudwy neu gapel cynnar, erbyn hyn a chyda threigl amser hwyrach na fydd dim mwy na thwmpath o gerrig a dim ond amlinelliad aneglur yn nodi ei ddefnydd gwreiddiol. O sefyll yno a synhwyro enaid y fangre, daw rhywun yn ymwybodol o adlais yn estyn yn ôl dros y canrifoedd, yn cysylltu’r cynt â’r wedyn ar daith a rennir, mor real bryd hynny ag y mae yn awr.
Rwy'n cofio prynhawn o haf, yn cerdded llwybr yr arfordir rhwng Sant Non a Sant Stinan, ar wyliau’n pererindota ym Mhenfro. Wrth droi’r gornel ar lwybr o borfa las, daeth Swnt Dewi i’r golwg o’m blaen, ac ar yr ochr arall gwelais yr antur roeddwn am ei dilyn drannoeth, sef Ynys Dewi – golygfa i’w sawru!
Taith fer yw hi i’r ynys ond nid taith i’r gwangalon chwaith. Gall y dyfroedd fod yn beryglus gyda chreigiau garw a throbwll Horse Rock yn chwildroi (fel arfer) o dan y dŵr. Ar fy ymweliad cyntaf rai blynyddoedd ynghynt, mynnodd gyrrwr y llong fynd â ni ar draws y trobwll - rhywbeth y byddech am ei wneud unwaith yn unig mae'n debyg!
Fel gwarchodfa adar sy'n llwyddo i roi cartref i adar a bywyd dynol fel ei gilydd, mae Ynys Dewi wedi bod yng ngofal y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) ers 1992.
Mae pererinion wedi bod yn dod i Ynys Dewi ers o leiaf yr ail ganrif pan adeiladodd Sant Tyfanog gell feudwy fechan yma. Credir bod y gell wedi ei lleoli wrth ymyl y nant yn y dyffryn bach ychydig i fyny o'r llwyfan glanio, heb fod ymhell o'r ffermdy, sydd bellach yn gartref i ddau warden llawn amser ar yr ynys. Fy ngobaith ar yr ymweliad hwn oedd deall yn well ble roedd union leoliad y gell feudwy. Ond gyda thraul y blynyddoedd, roedd y cerrig wedi eu gwasgaru'n llwyr ac er bod gennym syniad o'r safle tebygol, mewn gwirionedd nid oeddwn fymryn doethach nag ar yr ymweliadau blaenorol, ond bid a fo am hynny... Y tro nesaf efallai.