Sut i ofyn Pam... a Ble
Mae blwyddyn Halen a Golau yn parhau, wrth i ni edrych ar faes Cyfiawnder Hiliol, fel y clywn ni gan y Swyddog Cyfrifoldeb Cymdeithasol Justin Arnott
Er ei bod hi’n werth chweil gofyn "Pam?", dydy derbyn yr ateb syml "Oherwydd bod Iesu'n dweud hynny" ddim wir yn fuddiol.
Yn achos Cyfiawnder Hiliol, fe fuon ni’n bwrw golwg ar gyfarfyddiad Iesu â'r wraig o Syroffenicia ym Marc 7:24-29 lle roedd ei driniaeth gychwynnol ohoni yn llai na chanmoliaethus. Mae’r darn yma, a darnau eraill o'r Beibl yn gofyn inni oedi i feddwl yn hytrach na dyfynnu'r ysgrythur yn unig, neu ymateb "Oherwydd bod Iesu'n dweud hynny."
Wrth archwilio'r pwnc ymhellach, sylweddolwn nad yw Cyfiawnder Hiliol yn ymwneud â lliw croen person yn unig, a’i fod yn fwy na gwneud iawn am gam sydd wedi'i gyflawni.
Wrth gwrs dydy’r Flwyddyn Halen a Goleuni ddim yn ymwneud yn unig â'r hyn sydd ar wefan yr Esgobaeth, ond hefyd y digwyddiadau sy'n cael eu trefnu ledled yr Esgobaeth.
Ar Ddydd y Dyrchafael, ymgasglodd plant ysgol unwaith eto yn yr Eglwys Gadeiriol am ddiwrnod o weithgareddau ac addoliad. Rhan fawr o’r dydd oedd cymryd rhan yn Duw a'r Glec Fawr a oedd yn cynnwys enghreifftiau yn defnyddio halen a goleuni i gyfleu, nid yn unig y neges Gristnogol, ond hefyd nad yw gwyddoniaeth a hyd yn oed bod yn wyddonydd yn golygu na ellir arddel ffydd. Roedd amryw o weithgareddau yn cynnwys gwneud llusernau i adlewyrchu mai Iesu yw goleuni'r byd ac uwchgylchu deunydd yn rhywbeth sanctaidd i ddangos bod rhywbeth y gellid ei ystyried yn ddiwerth yn werthfawr yng ngolwg Duw.
Wrth edrych ymhellach ymlaen, mae Plant Dewi yn trefnu digwyddiadau ar gyfer yr haf, pan fydd yna fwy o alw nag erioed am eu gwasanaethau, gyda’r plant ar wyliau. Ond mae magu plant yn alwad llawn amser!
Eto, mae hyn i gyd yn ddi-nod o'i gymharu â'r effaith y gallwch ei chael yn union lle rydych chi. Sut ydych chi'n halen ac yn oleuni lle rydych chi? Anfonwch unrhyw straeon a allai fod gennych