Rhoi Gobaith trwy Ddŵr
Mae rhaglen gwerth £50,000 wedi bod yn fendith i 48 o deuluoedd ym Methlehem ac wedi’u galluogi i gael cyflenwad dibynadwy o ddŵr glân
Allwch chi ddim dibynnu ar y prif gyflenwad dŵr yn ardal Bethlehem – ar brydiau, dim ond dau ddiwrnod yn y mis y bydd dŵr ar gael. Gan fod cynifer o bobl yn ddi-waith ac yn gaeth i’w cartrefi oherwydd y rhyfel, mae'r galw am allu storio dŵr glân wedi cynyddu'n aruthrol.
Dan arweiniad yr elusen Gristnogol Friends of the Holy Land, mae’r prosiect yn diwallu angen mawr i’r teuluoedd hyn trwy adnewyddu’r hen danciau dŵr rhydlyd a gosod paneli solar. I osgoi dŵr o’r hen danciau afiach hyn, rhaid oedd prynu dŵr o’r tanceri cludo dŵr glân a thalu deg gwaith cymaint â chost y prif gyflenwad.
"Mae yna amrywiaeth eang o bobl o’r gymuned Gristnogol leol yn cael cymorth o’r prosiect hwn - o deuluoedd mawr i bâr ifanc sydd ar fin priodi; fyddai’r un ohonynt wedi gallu fforddio hyd yn oed ystyried gwneud y gwaith hwn heb ein help ni", meddai Brendan Metcalfe, Prif Swyddog Gweithredol Friends of the Holy Land.
Erbyn hyn, felly, mae eu bywydau wedi gwella ac maen nhw hefyd yn deall bod yna gefnogwyr ledled y byd yn eu caru ac yn poeni amdanyn nhw, ac mae hynny’n hwb emosiynol iddyn nhw yn y dyddiau tywyll hyn. Gobeithio y bydd hyn yn eu hannog i aros yn y Wlad Sanctaidd."
Roedd y prosiect yn defnyddio cyflenwyr a chontractwyr Cristnogol lleol yn unig, felly roedd y budd ariannol yn lluosog gan ei fod hefyd yn darparu gwaith ac incwm iddyn nhw, ar adeg pan nad oes llawer o waith adeiladu yn digwydd oherwydd y rhyfel.
Ar ben hynny, fel rhan o fanyleb y prosiect, cafodd pobl ifanc o'r gymuned Gristnogol eu cyflogi fel prentisiaid gan roi cyfle iddyn nhw ddysgu crefft wrth weithio.
Mae ail gam y rhaglen i fod i ddechrau yn ddiweddarach eleni ac mae’r rhestr aros yn tyfu.
Gallwch gefnogi cam nesaf y prosiect hwn drwy wefan yr elusen neu drwy ffonio eu swyddfa: 01926 512980.