Hafan Pobl Dewi: Mehefin 2024 Famadihana

Famadihana

Yn y diweddaraf o'i hatgofion am wirfoddoli ym Madagascar, mae Theresa Haine yn cofio arferion claddu lleol

Yr un peth a'm trawodd pan oeddwn i’n teithio’n helaeth ym Madagascar oedd y beddrodau enfawr y tu allan i bob pentref. Roedd y bobl yn dlawd iawn a’u cartrefi to gwellt wedi eu gwneud o fwd neu bren ond roedden nhw rywsut yn adeiladu ac yn cynnal y beddrodau godidog hyn. Pan holais pam oedd hyn yn wir, yr ateb a gefais oedd mai rhywbeth am oes oedd eich tŷ ond bod beddrod i bara am dragwyddoldeb.

Mae arferiad mewn sawl rhan o Fadagasgar, sef famadihana, lle bydd beddrod yn cael ei wagio ar adeg weddus er mwyn ail-wisgo cyrff yr hynafiaid mewn lliain sidan newydd. Cefais wahoddiad i ddau o'r achlysuron trist/llawen hyn. Roedd yr ail achlysur yn teimlo'n bersonol iawn gan ei fod yn feddrod teuluol i fy ffrind a'i rieni (sef pobl roeddwn wedi eu hadnabod) a oedd wedi mynegi'r dymuniad i gael eu lapio yn yr un lliain am dragwyddoldeb.

Famadihana

Roedd y cenhadon cynnar yn diystyru’r famadihana fel defod baganaidd ond y tro cyntaf i mi fod mewn famadihana, roedd gweddïau Cristnogol yn cael eu darllen cyn agor y beddrod a’r ail dro wrth i mi fynd i mewn i'r beddrod gwelais ddarlun enfawr a hardd o'r Forwyn Fair ar y wal, felly nid yw mwyach yn gywir i alw'r seremoni yn un baganaidd.

Y peth cyntaf a ddigwyddodd yn yr ail famadihana oedd cael pryd o fwyd Nadoligaidd gyda'r teulu i gyd. Aethom wedyn mewn gorymdaith at y bedd, a thynnu’r rhwystrau oddi ar y drws. O un i un roedd y cyrff, wedi'u lapio yn eu lliain sidan, yn cael eu cario allan a'u gosod ar fatiau. Dyma'r adeg pan fyddai’r atgofion a’r dagrau’n llifo; ond wedyn, roedd defod i’w dilyn a llieiniau newydd i’w dangos. Roedd o leiaf dri deg ohonynt y tro hwn. Cafodd y cyrff eu lapio yn y llieiniau newydd a’u cario saith gwaith o gwmpas y beddrod "i osgoi drysu’r hynafiaid a’u hatal rhag mynd i mewn i'n tai trwy gamgymeriad". Fe’u rhoddwyd yn ôl yn y bedd a chaewyd y drws â rhwystrau.

Roedd y teulu cyfan yn bresennol, yn cynnwys y plant. Roedd pob cyfle iddynt ofyn cwestiynau, a hyd yn oed cyffwrdd â'r cyrff a oedd wedi eu lapio. Er bod hyn i mi yn syniad reit ryfedd, eto roedd rhywbeth llesol amdano – roedd y plant yn awr yn deall marwolaeth nid yn ei ofni. Roedden nhw'n deall yn iawn y syniad bod yr ysbryd wedi mynd at Dduw ond bod olion corfforol yn dal yno ac y dylid eu hanrhydeddu. Roeddwn yn teimlo'n freintiedig iawn o gael fy nghynnwys ar achlysur teuluol mor bersonol.