Ffydd mewn gwasanaeth
Y mae PC Rachel John yn disgrifio sut y gwnaeth ymuno â’r Heddlu ei hail-gysylltu â’i etifeddiaeth ffydd gref
Y mae Crist a Christnogaeth wedi bod yn rhan o’r hyn ydw i ers yn ifanc iawn.
Cefais fy medyddio yn blentyn ifanc a mynd i Ysgolion Sul. Wrth fynd i Ysgol Uwchradd, treuliais sawl haf yn Malvern mewn grwpiau ieuenctid a drefnwyd gan Gristnogion. Rhoddodd y profiadau hyn sylfaen gref i’m ffydd ac yr wyf wastad wedi fy ystyried fy hun yn Gristion, hyd yn oed ar adegau pan nad oeddwn yn mynychu’r eglwys yn rheolaidd.
Er bod fy mhresenoldeb mewn gwasanaethau eglwysig yn ysbeidiol, roedd fy nghredoau Cristnogol yn sefydlog yn fy mywyd. Rheiny wnaeth arwain fy ngwerthoedd a phenderfyniadau, yn ffurfio’r hyn ydwyf fi heddiw.
Wedi ymuno â heddlu Dyfed-Powys, teimlais dynfa i ail-gysylltu gyda fy ffydd. Chwiliais am gysur ac arweiniad wrth i mi lywio bod yn Gwnstabl Heddlu Ymateb.
Yn ystod y cyfnod hwn awgrymodd fy niweddi ein bod yn mynd i’n heglwys leol, man gyda gwreiddiau teuluol dwfn. Dyma ble conffyrmiwyd fy nhadcu, ble priodwyd fy rhieni, a ble bedyddiwyd fi. Hefyd, ble cafodd fy niweddi a nhad eu bedyddio gyda’i gilydd.
Yr oedd dychwelyd at fy eglwys leol yn arwydd o’m ail-ymrwymo i’m hetifeddiaeth Gristnogol a’r awydd i fod yn rhan mwy gweithredol yn fy nghymuned ffydd. Y mae wedi bod yn daith o ail-ddarganfod a chryfhau fy nghysylltiad ysbrydol, gan fy atgoffa am bwysigrwydd ffydd yn fy mywyd personol a phroffesiynol.
Wrth i mi symud ymlaen, y mae fy ffydd yn fy ngyrru, gan dynnu nerth ac arweiniad oddi wrth ei egwyddorion a’i athrawiaethau.
Yn broffesiynol, y mae fy ffydd yn gwmpawd moesol, yn fy arwain yn fy ymatebion i eraill ac yn dal yn gryf wrth werth ‘câr dy gymydog’. Credaf bod dal wrth werthoedd Cristnogol fel tosturi, gonestrwydd a chyfiawnder yn hanfodol yn fy rôl fel Cwnstabl yr Heddlu. Y mae fy ffydd yn fy atgoffa i drin pob unigolyn gydag urddas a pharch, waeth beth yw eu cefndir neu amgylchiadau.
Yn wyneb heriau, gwelaf fy ffydd fel ffynhonnell o gysur a gwytnwch, yn rhoi i mi gryfder mewnol i ddyfalbarhau drwy amseroedd anodd.
Wrth edrych i’r dyfodol, gwelaf fy ffydd yn fy arwain tuag at lwybr o wasanaeth a phwrpas. Byddaf yn ceisio gwneud effaith bositif ar fy nghymuned, nid yn unig drwy fy ngwaith ond hefyd wrth ymgorffori gwerthoedd o garedigrwydd, empathi a haelioni sy’n ganolog i’m cred Gristnogol. Yr wyf yn rhagweld fy hun yn parhau i dyfu’n ysbrydol, gan ddyfnhau fy nealltwriaeth o gariad Duw ac ymestyn y cariad hwnnw at y rhai o’m cwmpas.
Yn y pen draw, yr wyf yn credu bydd fy ffydd yn fy arwain drwy yr heriau a chyfleoedd bydd yn fy ngwynebu yn y dyfodol, gan fy angori mewn pwrpas a gobaith wrth i mi ymlwybro ar hyd taith bywyd.