Hafan Pobl Dewi: Mehefin 2024 Dyddiadur Offeiriad wedi ymddeol

Dyddiadur Offeiriad wedi ymddeol

Christopher Lewis-Jenkins

Io ho ho a photel o win! Mae Christopher Lewis-Jenkins yn hwylio’r don unwaith eto.

Hawdda-môr ffrindie! Wyddoch chi ble mae môr-ladron yn mynd i siopa? Arrrrrrrgos. Beth ddywedodd y cwch bach wrth y cwch mawr cyn ffarwelio? Hwyl fawr!

Dyna ddigon o ddwli. Efallai eich bod wedi dyfalu bod Anne a minnau yn ôl ar y môr mawr. Ydych chi’n cofio inni fordeithio'r Fjords Norwyaidd y Pasg diwethaf (2023)? Wel, rydyn ni ar ein ffordd i Tristan da Cuhna sef yr ynys fwyaf anghysbell yn y byd.

Tristan da Cunha

Fe hedfanon ni allan o Heathrow i Frankfurt, newid awyrennau ac anelu am Cape Town, De Affrica, ac yna ymuno â llong bleser yr Ambience, sy’n un o longau'r Ambassador Line. Wrth i mi ysgrifennu hyn o lith, rwyf newydd orffen fy Nghymun Bendigaid cyntaf. Roedd o leiaf 70 yn bresennol, cynulleidfa reit dda.

Doedden ni ddim yn gwybod mewn gwirionedd ein bod ni'n dod ar fordaith felly roedd yn dipyn o ras i gael popeth ynghyd, trefnu gwasanaethau ar y cyfrifiadur, pacio bara i'r bobl, bara croyw i’r offeiriad, bara heb glwten, gwin. Ond na, doedd gennym ni ddim gwin. Roedd rhaid i mi drefnu hynny ar fwrdd y llong. Ac wrth i ni ddadbacio fe sylweddolais i fod fy Meibl yn dal ar fwrdd yr ystafell fwyta yn aros i gael ei roi yn y cês. Yn ffodus, cefais Feibl yn llyfrgell y llong heddiw ar ôl i Joan Allen, fy nghydymaith clerigol yn LMA De Orllewin Sir Benfro, anfon y darlleniadau angenrheidiol ar gyfer y mis. (Da iawn Joan a diolch o galon).

Felly ar ôl bod yn Tristan da Cunha, rydyn ni’n hwylio i Rio de Janeiro yn ogystal â Salvador a Recife ym Mrasil, Casablanca a Marrakesh ym Moroco, Lisbon ym Mhortiwgal cyn docio ar ben y daith yn Tilbury, Llundain.

Mae'n dda bod yn ôl ar fwrdd llong ar ôl blwyddyn ar dir sych. Profiad rhyfedd yw cael cynulleidfa gaeth. Dwi'n trefnu gwasanaeth bob dydd ar y môr ac ar ôl y gwasanaeth dwi'n cael Amser Tawel. Os oes gan unrhyw un awydd i siarad â mi yn breifat, dyma'r amser. Wel gyfeillion ar dir sych, daeth gwylfa 4 tan 8 a’r amser i ganu’n iach. Hwyl fawr am y tro.