Creadigol dros Gyfiawnder Hinsawdd
Rebecca Elliott ydw i ac ers Haf 2022 rydw i wedi bod yn gweithio fel Swyddog Addysg ac Ieuenctid Cymorth Cristnogol yng Nghymru.
Mae fy swydd yn un amrywiol a diddorol ac yn cyfuno fy mhrofiad o weithio ym myd addysg gyda fy ffydd Gristnogol a’i sylfaen o degwch ac urddas i bob person. Mae’n fraint cael y cyfle i gyfrannu at addysgu ac ysgogi pobl ifanc i feddwl am y byd a dinasyddiaeth byd-eang a rhoi cyfle iddyn nhw feddwl a gweithredu ar sut i wneud y byd yn decach i bawb.
Tymor yr Hydref roeddwn i’n cydlynu a chasglu darnau o waith celf gan ysgolion ar draws Cymru oedd wedi ymuno â phrosiect sydd gennym ni ar y cyd gyda sawl mudiad arall o’r enw Creadigol dros Gyfiawnder Hinsawdd. Ar ôl i’r ysgolion gynnal eu harddangosfeydd eu hunain a rhannu gyda’u cymuned eu teimladau am gyfiawnder hinsawdd, dewisais ddarnau o waith i gael eu gosod yn y Gadeirlan yn Llandâf neu yn y Senedd yn Llundain. Yn ystod arddangosfa Llandâf, gwahoddwyd rhai o’r ysgolion i sesiynau yno i weld y gwaith ac i rannu eu syniadau. Roedd arddangosfa Llundain yn un undydd a gwahoddwyd 20 o bobl ifanc o’r DU i dywys ASau o amgylch. Roedd 2 ddisgybl o Gymru a braf iawn oedd eu gweld yn siarad yn hyderus gyda’r ASau gan rannu eu teimladau a theimladau pobl ifanc a phlant eraill bu yn rhan o’r prosiect celf. Bydd y prosiect yma yn cael ei gynnal yn flynyddol a gall ysgolion gofrestru i fod yn rhan eleni drwy gysylltu â mi.
Hefyd bum yn gweithio ar gynllun achrediad i ysgolion cynradd yng Nghymru o’r enw Cymdogion Byd-eang. Newydd ei lawnsio mae’r cynllun ac edrychaf ymlaen i weld mwy o’r hyn mae ysgolion yn barod yn ei wneud ar ddinasyddiaeth fyd-eang ac i weld y syniadau yn datblygu. Mae meini prawf gwahanol a gall ysgol geisio am wobr efydd, arian neu aur. Mae cyd-weithio rhwng ysgol a’i heglwys leol yn cael ei hybu gan y cynllun yn ogystal â’r dysgwyr yn rhannu eu profiad ac yn rhan bwysig o’u cymuned lleol. Mae modd i ysgolion ddarganfod mwy neu gofrestru ar gyfer y cynllun drwy fynd i www.caid.org.uk/cbyd-eang.
Yn rhinwedd fy swydd rydw i wedi ymweld ag ysgolion, mynychu cynadleddau ac Eisteddfodau yn ogystal ag ymuno gyda gweddill y tîm a bod yn rhan o ddigwyddiadau codi pres, gwasanaethau ac ymgyrchu.
Am fwy o wybodaeth am un o’r prosiectau neu unrhywbeth arall a allai fodd o gymorth i chi, mae croeso i chi gysylltu: relliott@cymorth-cristnogol.org