Hafan Pobl Dewi: Mehefin 2024 Pâr diogel o ddwylo

Pâr diogel o ddwylo

Meleri Cray

Dewch i gwrdd â Meleri Cray, y Swyddog Diogelu ac Ymgysylltu newydd yn Esgobaeth Tyddewi

Fel rhan o'r Tîm Diogelu ehangach ar gyfer yr Eglwys yng Nghymru, rydw i yma i ddarparu sesiynau hyfforddi ar Ddiogelu. Rydw i hefyd ar gael i gynnig arweiniad a chymorth ar amrywiaeth o faterion diogelu, o Recriwtio Diogel i gwblhau asesiadau risg.

Mae'r ffydd Gristnogol yn rhan bwysig iawn o ‘mywyd i. Rwy'n organydd yn y capel ac roeddwn hefyd yn athro yn yr Ysgol Sul am nifer o flynyddoedd. Mae fy nghefndir cyflogaeth yn amrywiol. Bûm yn heddwas gyda Heddlu Dyfed Powys am flynyddoedd lawer. Rwyf hefyd wedi gweithio mewn canolfan allgymorth gyda Byddin yr Iachawdwriaeth.

Ar ôl hynny, dechreuais weithio i'r Eglwys Bresbyteraidd yng Nghymru ar brosiect gyda'r nod o gynghori eglwysi ar eu gwaith gyda phlant, ieuenctid a theuluoedd. Yn ystod fy nghyfnod yn y rôl honno, clywais am Agor y Llyfr, adnodd gyda Chymdeithas y Beibl lle mae straeon o'r Beibl yn cael eu perfformio i blant yn ystod y gwasanaeth yn yr ysgol mewn ffordd hwyliog a rhyngweithiol – yna cefais secondiad i weithio fel hyrwyddwr y rhaglen hon cyn gweithio i Gymdeithas y Beibl yn arwain ar agweddau eraill ar eu gwaith yng Nghymru.

Rwy’n mwynhau canu’r piano ac wrth fy modd yn mynd am dro gyda’r ddau gi sydd gen i! Cymraeg yw fy iaith gyntaf, felly rwy'n hapus i sgwrsio â chi yn Gymraeg os byddai'n well gennych. Mae fy nghydweithwyr a minnau yma i'ch cefnogi. Gallwch ddod o hyd i'n holl fanylion cyswllt ynghyd â'r Polisi Diogelu ac amrywiol ddogfennau cyfarwyddyd ar ymarfer ar wefan yr Eglwys yng Nghymru yn yr adran 'Diogelu'

Gallwch hefyd ddod o hyd i fanylion sesiynau hyfforddi yn Hyfforddiant Diogelu - Yr Eglwys yng Nghymru.