Presgripsiwn ar gyfer llawenydd
Dechreuodd y côr ym mis Medi 2018, gyda 12 ohonom yn ymbalfalu gyda harmonïau caneuon i 2 neu 3 llais.
Doedden ni ddim wedi bwriadu perfformio i unrhyw un arall heblaw ein hunain – hynny yw nes i Storm Callum gyrraedd y mis canlynol, gan achosi llifogydd a difrod i lawer o gartrefi a busnesau lleol. Fe wnaethom gamu o’n hardal gysurus a chanu ochr yn ochr â pherfformwyr eraill, gan helpu i godi arian i’n ffrindiau a’n cymdogion.
Ers hynny yr ydym wedi cynyddu ein rhifau a mynd â’n harmonïau i ddigwyddiadau cymunedol megis Sioe Llandysul, Carnifal a Ffeiriau Nadolig. Yr ydym wedi ymuno gyda pherson o Gorea, a chôr Meibion mewn Dathliad y Cenhedloedd, wedi canu gyda Chantorion Llandeilo yn ogystal ag eglwysi lleol a chartrefi gofal.
Haf llynedd fe gydweithiom gyda ‘Plethu’ i greu ‘Noswyl’ teyrnged gerddorol unigryw i Elen, mam Owain Glyndwr (gallwch wrando ar YouTube!) a buom yn canu gyda Wynne Evans ar BBC Radio Wales.
Yr ydym yn canu moliant i Dduw yn Saesneg, Cymraeg a sawl iaith o’r Affrig ac mae ein rhaglen Efengyl ac Ysbrydol am yn ail â chaneuon o fathau eraill, gan ein bod yn croesawu cantorion o bob crefydd a di-grefydd.
Fe ddysgom sut i wneud ‘Zoom’ yn ystod y pandemig hyd haf ’21 pan oeddem yn gallu cyfarfod, yn ofalus, yn y cnawd mewn ysgubor awyr agored ar fferm rhai o’n ‘Gospelwyr’ (Diolch Tom ac Eva Croucher) nes bod ein crynu yn uwch na’n canu!
Nawr yr ydym yn cyfarfod bob nos Lun 7-8.30 yn Neuadd Tysul yn Llandysul. Y mae croeso i bawb i alw heibio neu am fwy o fanylion cysylltwch â sandie.stefanetti@gmail.com
Daeth canu a chreu harmonïau lleisiol â chymaint o lawenydd i’m bywyd ers ymuno â chôr eglwys am y tro cyntaf yn ferch ifanc. Yr wyf yn fwyaf hapus wrth ganu caneuon sy’n fy nghodi a chreu ymateb emosiynol gyda ffrindiau sy hefyd yn caru canu. Oni fyddai’n wych pe bai ein meddygon yn awgrymu ‘canu mewn côr’ fel therapi!
Y mae arwain côr perffaith yn wych, ond dim o reidrwydd yn fwriad gen i. Y mae arwain côr o ffrindiau sy’n canu’n brydferth, yn dod â llawenydd a hapusrwydd iddynt hwy ac i bawb o’u cwmpas….. dyna ein bwriad a’n nôd