Ffydd yn y dyfodol
Mae mannau addoli Cymru yn wynebu argyfwng. Dyna, o leiaf, yw'r teimlad o fewn Fforwm Mannau Addoli Cymru.
Mae'r Fforwm yn dwyn ynghyd ystod o sefydliadau ac unigolion sydd wedi ymrwymo i sicrhau dyfodol cynaliadwy i fannau addoli yng Nghymru, beth bynnag fo'u ffydd neu enwad.
I'r perwyl hwn, mae'n ymgymryd ag ymarferion canfod ffeithiau ac yn casglu gwybodaeth, yn gyntaf er mwyn deall natur y broblem ac yna i chwilio am ffyrdd i'w datrys. Mae hefyd yn gweithredu fel cronfa o adnoddau sy'n bodoli i ddarparu cyngor a ffynonellau cyllid posibl.
Ac mae digon o'r ddau, fel y gwelwyd mewn cyfarfod diweddar o'r Fforwm yn Abertawe. Roedd nifer o'r cyllidwyr mawr yn bresennol, ac yn barod i agor eu coffrau i gefnogi prosiectau sy'n cyd-fynd â'r meini prawf.
Neu, yn hytrach, maen prawf. Pwysleisiodd un siaradwr ar ôl y llall bod cynaliadwyedd = amrywiaeth; nid o ffydd, ond o gyfleusterau. Mae miliynau o bunnoedd, a digon o hyfforddiant ar sgiliau a chyngor proffesiynol ar gael ar gyfer cynlluniau sy'n croesawu partneriaethau rhwng eglwysi a'r cymunedau y maen nhw’n eu gwasanaethu, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.
Roedd yna enghreifftiau lu, o Gronfa Dreftadaeth y Loteri, y Gronfa Treftadaeth Bensaernïol, yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol, Planed ac eraill, sydd i gyd â’r nod o roi eglwysi wrth galon adfywio cymunedol.
Ac mae'r atebion posibl yn amrywiol. Y cwestiwn sydd i'w ofyn, yn ôl Adam Hitchings o'r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol yw: "Beth all yr adeilad ei gyflawni orau?", boed yn eglwys, neuadd neu hyd yn oed ysgol. Fel y nododd un cyfrannwr, yr eglwys, y neuadd neu'r hen ysgol yn aml yw'r unig adeilad cymunedol yn y gymdogaeth.
Un awgrym amlwg oedd y dylai eglwysi sy'n wynebu gorfod cau geisio perswadio eu cymuned i brynu'r adeilad ac yna gweithio mewn partneriaeth i ddarparu'r cyfleusterau sydd eu hangen arnyn nhw, fel tai cymdeithasol, sy'n annog pobl ifanc i aros yn eu hardaloedd.
Fel arall, gall eglwysi aildrefnu eu lle i gyfuno addoliad ag opsiynau eraill a arweinir gan y gymuned a allai ddarparu hyfforddiant ar sgiliau a chymorth lles neu gyfleoedd i fentrau newydd ddod o hyd i le fforddiadwy. Gallai mentrau o'r fath helpu i gynhyrchu'r economi leol a hefyd ddod yn ffrwd incwm ar gyfer cynulleidfaoedd sydd â thrafferthion ariannol – gan eu helpu i sicrhau eu dyfodol.
Ar y cyfan, y consensws oedd, os oes gennych chi syniad da, a'r ewyllys i'w wireddu, gellir dod o hyd i'r cyllid i'w gyflawni. A waeth pa sefydliad y trowch chi atyn nhw, fe fyddan nhw wrth eu bodd yn clywed gennych.