Hafan Pobl Dewi: Rhagfyr 2024 Cristnogaeth Geltaidd: Cofleidio Ffydd, Natur a Hinsawdd sy'n Newid

Cristnogaeth Geltaidd: Cofleidio Ffydd, Natur a Hinsawdd sy'n Newid

Mae Tracey Ashcroft, o Grŵp Gweithredu Gofalu am y Greadigaeth, yn dod o hyd i atebion ar gyfer y presennol yng ngwreiddiau'r gorffennol

Yn harddwch tawel arfordir ysgubol Sir Benfro, yn ei bryniau tonnog a’i choetiroedd hynafol, mae yna draddodiad ysbrydol sydd wedi’i ymwreiddio’n ddwfn yn y dirwedd: Cristnogaeth Geltaidd.

Gellir olrhain y gwreiddiau o’r cenhadon Cristnogol ddaeth i Brydain yn y 4edd/5ed ganrif. Seintiau fel Dewi, Non, Brynach a Theilo, a ddaeth gan ledaenu dysgeidiaeth Crist ledled Cymru a chanolbwyntio'n benodol ar ostyngeiddrwydd, symlrwydd a byw mewn cytgord â natur.

Iddyn nhw, roedd y dirwedd yn arwydd sanctaidd o bresenoldeb Duw. Creodd y cysylltiad hwn ddiwinyddiaeth a oedd yn gweld natur ei hun fel lle i addoli a gweddïo ac ar gyfer myfyrdod ysbrydol. Mae Sir Benfro'n parhau'n gyforiog o’r safleoedd hanesyddol ac ysbrydol hyn. Mae llwybrau'r pererinion i Eglwys Gadeiriol Tyddewi a'r safleoedd sanctaidd o amgylch Ynys Dewi yn ddarlun o agwedd at ffydd sy'n gweld Duw yn cael ei adlewyrchu yn y greadigaeth. Yn yr argyfwng hinsawdd presennol, mae'r syniadau hynafol hyn yn ein hatgoffa, yn union fel y gwnaeth y seintiau Celtaidd, ein bod yn cael ein galw i fyw mewn cytgord â natur a gofalu am y byd o'n cwmpas.

Adfer Stiwardiaeth Gristnogol Geltaidd

Mae eglwysi Sir Benfro yn gweithio i ymgorffori'r egwyddorion hyn yn y cyfnod modern. Dan arweiniad yr Esgob Dorrien a'r Canon Marcus Zipperlen, mae Grŵp Gweithredu Gofalu am y Greadigaeth yn arloesi mentrau newydd sy'n annog arferion cynaliadwy. Mae eu cenhadaeth yn pwysleisio pwysigrwydd stiwardiaeth ecolegol, drwy eiriol dros ostwng allyriadau carbon, cadwraeth ecosystemau lleol a datblygu cynaliadwy.

Mae'r Grŵp Gweithredu hefyd yn rhan o'r fenter Eco-Eglwys, sy'n cynnwys mynd ati i ailfeddwl sut rydyn ni’n ymgysylltu â'r amgylchedd, annog eglwysi i leihau gwastraff, gweithredu systemau ynni-effeithlon ac addysgu plwyfolion am arferion cynaliadwy. O fentrau di-blastig i warchod cynefinoedd bywyd gwyllt, mae'r mudiad hwn yn cyd-fynd yn agos ag ethos Cristnogaeth Geltaidd, sy'n gweld pob creadur ac ecosystem fel adlewyrchiad gwerthfawr o greadigrwydd Duw.

Wynebu Hinsawdd sy'n Newid

Mae Sir Benfro eisoes yn gweld effaith newid hinsawdd. Mae lefelau'r môr yn codi, ac mae erydu arfordirol a newidiadau mewn bioamrywiaeth yn herio'r cydbwysedd y mae'r rhanbarth wedi'i gynnal ers canrifoedd. Nod y Grŵp yw mynd i'r afael â'r heriau hyn drwy godi ymwybyddiaeth o fewn cymunedau eglwysig a chynnig arweiniad ymarferol ar sut y gall unigolion a chynulleidfaoedd gyfrannu at ddyfodol cynaliadwy.

Trwy weithdai, gwasanaethau gweddïo amgylcheddol a digwyddiadau cymunedol, mae'r Grŵp yn pwysleisio pwysigrwydd cysylltiad rhagweithiol. Mae'r tîm yn annog pob plwyf i archwilio ei ôl troed carbon ac ystyried ffyrdd o warchod treftadaeth naturiol unigryw Sir Benfro. P'un ai drwy brosiectau plannu coed, defnyddio tir yn gynaliadwy neu trwy allestyn addysgol, mae'r Grŵp yn darparu ffyrdd ymarferol o warchod harddwch y ddaear, gan aros yn driw i'r traddodiad Cristnogol Celtaidd o anrhydeddu'r greadigaeth.