Hafan Pobl Dewi: Rhagfyr 2023 Cerdded gydag Angylion

Cerdded gydag Angylion

Mae Sophie Marsh yn sôn am gynnydd Pererindod Ieuenctid Tyddewi a chynllun newydd i gefnogi y rhai sy'n cymryd rhan.

Eleni, bu Pererindod Ieuenctid Tyddewi yn lwyddiant ysgubol ac os ydych am wrando ar y rhai fu ar y daith,yn cyfleu eu teimladau am y Bererindod, mae fideo adborth ar You Tube ar -

https://youtu.be/u6iRAH.OWM

Youth Pilgrimage 2023

Yn gyffredinol gwnaeth y Pererindod lwyddo tu hwnt i ddisgwyliadau pawb, gan arwain y bobl ifanc i ddeallusrwydd dyfnach o'r ffydd oedd ganddynt yn barod, neu mewn ambell achos dod i adnabod Iesu iddynt eu hunain.

Siaradodd y bobl ifanc am pa mor dda oedd gwneud ffrindiau newydd, mwynhau y llwybr arfordirol a dod i adnabod y staff. Fel canlyniad, y bwriad yw datblygu y pererindod y flwyddyn nesaf ac i fod yn agored i bobl ifanc ar draws yr Esgobaeth. Bydd hyn yn cynnwys hurio bws i gasglu pobl ifanc o ogledd yr esgobaeth a'u cludo i Dŷ Ddewi.

Er mwyn i hyn ddigwydd yn llwyddiannus, fel y medrwn gynnwys pawb ar draws yr esgobaeth mewn rhyw ffordd, bydd angen eich help. Mae arnom angen tîm o bobl yn gweddio dros y Pererinion, mae angen annog y bobl ifanc yr ydych chi yn adnabod i ymuno a phrofi y pererindod, ac mae angen gwirfoddolwyr yn ystod yr wythnos i gefnogi y tîm.

Bydd pererindod y flwyddyn nesaf o'r 29ain o Orffennaf tan yr 2ail o Awst.

Mae pecyn cefnogi/noddi wedi ei baratoi fydd yn galluogi mwy o bobl ifanc i gymryd rhan yn ogystal â rhoi cyfle i unigolion, eglwysi ac Ardaloedd Gweinidogaethol Lleol i fod yn ymwneud gyda'r pererindod drwy weddi, gohebiaeth a diweddariadau oddi wrth y Pererinion. Mae cynllun cefnogi a noddi Angylion yn caniatau i ieuenctid gydag adnoddau cyfyng i gymryd rhan, adeiladu perthynas ddiogel drwy weddi gan fod yr Angylion yn gweddio am yn ogystal â derbyn gweddiau drostynt yn ystod y pererindod. Bydd yr Angylion yn cael newyddion cyson yn ystod y flwyddyn, a bydd bwletin dyddiol o'r pererindod, i sicrhau bod yr Angylion yn gwybod y diweddaraf am y daith.

Cadwch lygad ar wefan Plant,Ieuenctid a Theuluoedd – www.stdavidscyf.org.uk ble fydd gwybodaeth a sut allwch ymwneud â'r cynllun.