Ffolineb Ffensys
Marcus Zipperlen, Swyddog Gofal y Greadigaeth, sy’n esbonio sut mae ffiniau caeedig yn gallu niweidio mwy na mudwyr dynol yn unig.
Pan dymchwelwyd Wal Berllin ym 1989, fe’i gwelwyd yn gam nodweddiadol i’r cyfeiriad cywir, yn galluogi aduniadau rhwng cymdogion a rhyddid i allu symud a byw bywyd. Ers hynny, beth bynnag, mae’r muriau eraill o fewn Ewrop wedi tyfu hyd at 6 gwaith cymaint ac erbyn hyn dros 2000km o hyd. Yn fyd lydan, mae tua 47,000km o ffiniau caled rhwng gwledydd. Tristwch yn siwr yw hyn i Gristnogion sy’n dilyn Arglwydd oedd â’i fryd ar garu ac na oddefai ymataliadau cymdeithasol na gwleidyddol.
Yn ogystal â’r diflastod a’r gofid mae hyn yn ei greu ar gyfer pobl wedi eu dadleoli sy’n chwilio am loches, mae pris ecolegol i’w dalu am y ffiniau anrheiddiadwy hyn. Mae gofyn i anifeiliaid symud er mwyn dod o hyd i ddŵr, bwyd a phartneriaid sydd ddim yn perthyn. Heb y cyfleoedd i wneud hynny, bydd poblogaethau’n raddol edwino, fel y gwelwn eisoes.
Mae’r clawdd rhwng India a Phacistan, er enghraifft, yn cael effaith andwyol ar boblogaeth geifr gwyllt yr ardal; mae’r wal rhwng Tseina a Mongolia yn niweidio poblogaethau o asynod gwyllt ymysg anifeiliaid eraill; ac mae’r wal rhwng yr Unol Daleithiau a Mecsico’n cwtogi ar rifau mamaliaid y tir a’r tylluanod cwta sy’n hedfan yn agos i’r ddaear. Wrth i’r ddaear gynhesu o ganlyniad i newid hinsawdd byd eang, mae angen i anifeiliaid fudo er mwyn gallu byw o fewn eu hystod tymheredd perthnasol. Mae’r holl gloddiau a’r welydd yn dwysau’r gofid wrth gyfyngu anifeiliaid o fewn ardaloedd sy’n prysur droi’n anaddas.
Beth ellid ei wneud? Wel, yn wleidyddol, gallwn fynnu bod ein cynrychiolwyr yn cynnig atebion dilys ar gyfer datrys y problemau yn hytrach na tharo bai ar estroniaid. Dydy welydd ddim yn gweithio ta beth, fel y cyfaddefodd llywodraeth Slofenia yn ddiweddar wedi codi ffens ar ei ffin gyda Croasia er mwyn atal mewnfudwyr. Yr haf hwn, danfonwyd milwyr i’w thynnu lawr a gwnaeth hynny ddaioni mawr i fleiddiaid Ewropeaidd, eirth coch a’r lyncs sy’n ddibynnol ar y gallu i grwydro Mynyddoedd Dinarig.
Yn nes at adref, gallwn ddymchwel ffensiau o fewn ein gwlad sy’n atal symudiadau bywyd gwyllt. Gydag ychydig ofal, gall ein mynwentydd a’n gerddi gael eu trawsnewid i fod yn sarn cyswllt i wrthweithio yn erbyn cloddiau a ffiniau annaturiol heolydd a threfi, gallwn blannu hadau blodau er annog pryfaid sy’n peillio a gallwn adael corneli gwyllt ar gyfer draenogod neu agor pwll ar gyfer brogaod. Ond yn nes at destun heddiw, pam na allwn gyfnewid ein ffensiau salw am berthi cymysg o goed cynhenid fel y ddraenen wen, pren celyn, ffawydd neu fasarn y maes? Maent dipyn harddach ac yn hwyluso symudiad anifeiliaid neu hyd yn oed yn cynnig lloches neu gartrefi iddynt.
Cymerwch olwg ar y dudalen hon am syniadau a chanllawiau. https://www.wildlifetrusts.org/actions/how-make-hedge-wildlife