Mae’r tensiwn yn codi yn etholiadau’r arlywydd
Ar drothwy’r etholiadau yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, mae’r sefydliad uchaf sy’n gyfrifol am anghydfod etholiadol - Y Llys Cyfansoddiadol - yn wynebu ei brawf cyntaf. Mae Benjamin Rwizibuka o’n Cymar Esgobaeth yn Bukavu’n ystyried y tensiynau.
Yn dilyn y cyhoeddiad ar Hyfref 20fed o’r rhestr dros dro gan CENI (Cowmisiwn Etholiadol Cenedlaethol Annibynnol) ystyriwyd 24 o’r ymgeiswyr yn ddilys ar gyfer yr etholiad am arlywydd. Yn dilyn y cyhoeddiad, roedd dau o’r ymgeiswyr a ddewiswyd, Seth Kikuni a Noel Tshiani, yn ystyried nad oedd Felix Tshisekedi - yr arlywydd presennol- a Moise Katumbi’n cwrdd â’r amodau gofynnol ar gyfer sefyll.
Yn gyntaf, mae Kikuni’n credu bod Tshisekedi wedi newid sut mae’n cael ei adnabod a gallai hyn achosi problem pe bai’n sefyll eto yn y dyfodol. Yn 2018 fe’i etholwyd o dan yr enw Felix Tshisekedi Tshilombo, ond ar gyfer etholiadau mis Rhagfyr mae wedi ei gofrestu o dan yr enw Felix-Antoine Tshisekedi Tshilombo. Pe bai’n llwyddiannus ym mis Rhagfyr, creda Kikuni y bydd yr arlywydd presennol yn dweud mai ei fandat o 2023-2028 oedd y cyntaf a thrwy hynny y byddai’n gymwys am ail fandat o dan ei enw newydd.
Yn ail, mae Tshiani wedi cyhuddo Katumbi o fod o genedligrwydd Eidalaidd. Mae cenedligrwydd Congoles yn sengl ac unigryw. Mae cymryd unrhyw genedligrwydd arall yn ystod eich bywyd yn eich diarddel yn awtomatig o genedligrwydd y Congo.
Roedd y Llys Cyfansoddiadol wedi rheoli bod cais Tshiani ynglŷn â Katumbi’n ddisail. Yn wir, yr unig dystiolaeth berthnasol a gyflwynwyd oedd erthygl amheus ym mhapur newydd Jeune Afrique. Ychydig yn gynt, roedd y llys wedi gwrthod deiseb Kikuni yn erbyn yr arlywydd presennol gan ei bod yn hwyr yn cael ei chynnig, gyda chyfreithwyr Tshisekedi’n hawlio mai dadl ffals ac erledigaeth oedd. Cyhoeddwyd y rhestr derfynol o 24 ymgeisydd ar Dachwedd 18fed.
Ers sefydlu CENI a’r Llys Cyfansoddiadol, mae’r wrthblaid wedi ymosod ar yr apwyntiadau gan gyhuddo Tshisekedi o osod ei gefnogwyr ei hunan yn y ddwy sefydliad yma, sydd â chyfrifoldeb dros drefnu a rheoli pob anghydfod etholiadol. Felly roedd y cais dros annilysrwydd yr ymgeisydd Katumbi, un o brif ffigyrau’r wrthblaid yn brawf o’r Llys Cyfansoddiadol. Ond yn ffodus, gwnaeth y Llys wrthwynebu’r cais am annilysrwydd ei ymgeisydd a fyddai’n fwy na thebyg wedi golygu sgandal cyntaf yn y broses anodd a ddisgwylir ym mis Rhagfyr.