Hafan Pobl Dewi: Rhagfyr 2023 Caplaniaeth Anna

Caplaniaeth Anna

Byddan nhw'n dal i roi ffrwyth pan fyddan nhw'n hen; byddan nhw'n dal yn ffres ac yn llawn sudd. (Salm 92 14)

Anna Chaplains

Mae tri o’n clerigwyr wedi bod yn ymchwilio’r buddion o weinidogaethu i bobl hŷn.

Ar ddiwedd mis Hydref aeth y Parch Robert Wilkinson, y Parch Shirley Murphy a’r Parch Sarah Llewellyn, yn cynrychioli Esgobaeth Tyddewi, ar gwrs hyfforddi preswyl ar Gaplaniaeth Anna.

(https:/www.annachaplaincy.org.uk) sef gweinidogaeth pobl hŷn.

Codwyd eu calon wrth weld cymaint o bobl o’r chwech esgobaeth yn cydnabod pwysigrwydd gweinidogaeth pobl hŷn, ac fel tîm cawsant eu cyffroi gan yr hyn, fel unigolion, y gallent ddysgu oddi wrth y cwrs a’i ychwanegu i’w gweinidogaeth eu hunain.

Yn ôl Efengyl Luc, gwraig mewn oed oedd Anna, neu Anna’r Broffwydes a ymddangosodd yng nghyflwyniad yr Iesu yn y deml. Enwyd caplaniaeth Anna ar eu hôl.

Ffordd o gefnogi pobl hŷn yn emosiynol ac yn ysbrydol yw Caplaniaeth Anna. Yn y bôn mae Caplan Anna neu Gyfaill Anna’n rhywun sydd yn cydgerdded ochr yn ochr â phobl hŷn boed mewn cartrf henoed neu gartref nyrsio, llety cysgodol neu yn eu cartrefi eu hunain, gan ddarparu gofal ysbrydol iddynt hwy a’u hanwyliaid pa un ai ydynt yn gadarn eu ffydd, neu ag ychydig neu dim ffydd.

O fewn ein hesgobaeth Mae 25% o’r boblogaeth dros 65 mlwydd oed a 6.4% dros 80. Mae rhai ohonynt yn rhan o’n cynulleidfaoedd ac yn aml yn chwarae rhan allweddol, ond mae eraill yn fregus neu heb fod yn iach. Roedd yr hyfforddiant wedi ein herio i ystyried pa mor dda yr ydym yn gweinidogaethu i’r rhai o fewn ein cynulleidfaoedd ac yn wir i anghenion ysbrydol y gynulleidfa hŷn ehangach.

Yn ogystal â’r hyfforddiant ymarferol a gawsant gan Gaplaniaid Anna profiadol, gwnaethant ddysgu oddi wrth astudiaethau achos a gwaith grŵp, ac hefyd oddi wrth brofiadau personol ei gilydd.

Fe bwysleisiodd y cwrs, er mor bwysig yw i’r eglwys ffocysu ar ieuenctid gan mai hwy yw’r dyfodol, ei fod hefyd yn bwysig cofio’n dyled enfawr i’r sawl a wnaeth ein dwyn yma. A ydym ni fel eglwys yn gwneud digon ar gyfer pobl hŷn na allant bellch fynychu’r eglwys?

Mae hon yn weinidogaeth bwysig a fydd gobeithio’n tyfu’n ehangach. Mae’r tri erbyn hyn wedi gorffen eu hyfforddiant ac yn aros i gael eu trwyddedu’n swyddogol fel Caplaniaid Anna. Maent yn hapus i helpu a thrafod ag unrhywun ynglŷn â’r weinidogaetrh bwysig hon os oes angen.