Hafan Pobl Dewi: Rhagfyr 2023 Dywedwch â blodau

Dywedwch â blodau

Y mae cynulleidfa eglwys Sant Ishmael, Rosemarket, wedi creu ffyrdd newydd i gysylltu gyda’u cymuned a dathlu creadigaeth Duw gan ddefnyddio Rhosod.

Daeth pwysigrwydd cynaladwyedd ac ymwybyddiaeth ecolegol yn fwy amlwg yn ein cymdeithas ac y mae pobl yn chwilio fwyfwy am ffyrdd eraill o fod yn ecolegol gyfeillgar ac yn ysbrydol ystyrlon . Yn Rosemarket yr ydym wedi bod yn defnyddio petalau rhosod a dyfwyd yn lleol, wedi eu bendithio gan Offeiriad, fel confetti priodas a ‘potpourri’.

Y mae rhosyn wedi ei ystyried erioed fel sumbol o gariad, purdeb ac ysbrydoliaeth. Y mae ei bersawr ysgafn a hudolus yn dal ein synhwyrau ac yn creu teimlad o harddwch a gosgeiddrwydd. Y mae priodasau yn ddathliadau wedi eu trwytho mewn traddodiad sy hefyd yn rhoi cyfleoedd i gynnwys ymarferion eco-gyfeillgar. Ychwanegodd bendithio petalau yn Eglwys Sant Ishmael haenen arall o harddwch a sumboliaeth i’r gwasanaeth a hybu eco-ysbrydolrwydd.

Y mae’r blodau ysgafn, wedi eu tyfu gennym a’u bendithio gan offeiriad mewn gweddiau twymgalon yn rhoi arwyddocad arbennig i blwyfolion a, gobeithiwn, wrth eu rhoi i’r ddarpar briodasferch, yn sumbol o gariad ac ymrwymiad mewn ystum unigryw ac ystyrlon. Gall y petalau hardd hyn addurno’r seddau neu allor neu fod yn gonffeti yn ystod y dathliadau. Y mae potpourri o’r rhosod hyn yn rhoi persawr parhaol, rhyfeddol ac yn atgof arbennig. Y mae’r blodau hyn, wedi eu creu o fewn muriau ein heglwys, yn ychwanegu at geinder naturiol ac yn ein hatgoffa bod cariad wedi ei wreiddio mewn ffydd a chymuned.

Rose Petal Pot Pourri

Rysait Potpourri Rhosod Syml

Bydd angen:

Tua dwsin o rosod arogleuol

Hambwrdd mawr i fynd yn y ffwrn

Cynhwysydd gwydr gellir ei selio

Olew hanfodol os dymunir

Taenwch y petalau rhosod mewn haenen denau dros yr hambwrdd. Gallwch arbrofi gan sychu rhosod cyfan neu rai heb agor. Yna, naill ai rhowch mewn man tywyll, sych, cynnes am 2-3 diwrnod neu mewn ffwrn oer iawn (mor oer a gall eich ffwrn fod) nes iddynt sychu. Unwaith eu bod wedi sychu, rhowch mewn jar wydr. Gallwch nawr ychwanegu speis (megis sinamon neu glof) neu rosmari sych neu lafant i wneud eich persawr yn bersonol i chi.

Caewch y cynhwysydd a’i ysgwyd yn ofalus. Gadewch y cynhwysydd mewn man cynnes am 24 awr ac yna agorwch i fwynhau y persawr.