Hafan Pobl Dewi: Rhagfyr 2023 Cofio Cofid

Cofio Cofid

Covid memorial

Mae Comisiwn y Llywodraeth wedi argymell sefydlu diwrnod o fyfyrio, yn flynyddol, i gofio’r pandemig coronafeirws a’i waddol.

Sefydlwyd y Comisiwn yn benoldol er mwyn dod o hyd i gonsensws cyhoeddus ar sut y dylid cofio a mynd i’r afael â digwyddiadau’r pandemig a’u heffeithiau, er budd y teuluoedd hynny yr effeithiwyd arnynt ond hefyd gymunedau cyfan.

Mae’r adroddiad terfynol a gyhoeddwyd ym mis Medi’n gwneud deg argymhelliad a’r cyntaf ohonynt yw sefydlu diwrnod cofio swyddogol.

Y dyddiad a ddewiswyd yw’r dydd Sul cyntaf ym mis Mawrth, ond mae’n cydnabod y gallai hyn wrthdaro â Dydd Gŵyl Ddewi neu Sul y Fam, ac yn y cyswllt hwn gellir dewis dydd Sul arall.

Mae’r argymhellion eraill yn cynnwys codi cofebau i gofio’r sawl a fu farw a’r rhai hynny, megis gweithwyr iechyd, a chwaraeodd gymaint ran yn y frwydr yn erbyn y feirws.

Yng Nghymru cyhoeddwyd eisioes fod tair coedwig goffaol i’w sefydlu, gan gynnwys un yn Brownhill yn Nyffryn Tywi rhwng Llandeilo a Llanymddyfri. Mae’r adroddiad yn pwysleisio’r angen am ardaloedd agored ble y gall pobl gwrdd a myfyrio. Mae hefyd yn galw am argaeledd arian ar gyfer prosiectau coffaol lleol, yn cael eu gweinyddu gan Ymddiriedolaeth Coffa Cofid a fyddai hefyd yn cydlynu digwyddiadau megis y diwrnod cofio.

Byddai hefyd yn gyfrifol am greu symbol neu logo cydnabyddedig yn genedlaethol i’w gynnwys ym mha le bynnag y sefydlir prosiect.

Nid yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig hyd yn hyn wedi ymateb i argymhellion y Comisiwn.