Hafan Pobl Dewi: Rhagfyr 2023 Gweddi Hen a newydd

Gweddi Hen a newydd

Seamus Hargrave yn croesawu manteision ail gyflwyno y Rosari

Mae archwilio ffurfiau gweddi Cristnogol newydd ond eto yn hynafol yn hanfodol, nid yn unig i gynnal ffydd personol ond hefyd i gadw ysbryd pererindod yn fyw sydd wrth wraidd pob cymuned Eglwysig. Dyna pam yr ydym ni, yn Sant Leonard,Loveston, wedi dechrau Grŵp Rosari eciwmenaidd sydd yn cyfarfod yr ail ddydd Mercher o bob mis.

Rosary Group 2

Mae'r Rosari yn ffurf hynafol o ddefosiwn Crefyddol o gyfnod Mynachod yr Anialwch yn yr ail ganrif, sy yn ail adrodd gweddiau Cristnogol, i amseriad , a dyfnhau , myfyrdod ar symudiadau canolog, neu Ddirgelion, o fywyd Crist ar y ddaear.

Mae wedi bod yn ffurf boblogaidd o weddi Cristnogol, wedi ei ddefnyddio mewn traddodiadau ac adegau niferus gydol ein hanes Cristnogol. Yn y Rosari rydym yn ymuno gyda Mair “yn cadw'r holl bethau hyn yn ddiogel yn ei chalon ac yn myfyrio arnynt” (Luc 2:19) sydd yn ein harwain i ddatguddiad dyfnach o gymaint sydd o fewn y naratif Cristnogol a gallwn ei ddefnyddio am gynhaliaeth yn ein bywydau dyddiol.

Mae dyfnder a chyfranogiad, ym mywyd Crist, mae y Rosari yn ei gynnig i ni wedi dod yn ffordd pwysig a ffrwythlon i annog gweddi gydol yr wythnos. Mae'n naturiol i feddwl am eglwysi fel lleoedd ble mae pobl yn mynychu ar ddydd Sul ac yna diflannu am weddill yr wythnos. Mae yn cyflwyno cyfle yn ystod yr wythnos i ddod ynghyd i weddio sydd yn gwneud yr Eglwys yn adnodd agored i unrhyw un sydd yn chwilio am Dduw ar unrhyw foment, yn ogystal â'n helpu gyda straen a phwysau ein bywydau yng nghyd destun gweddi. Mae'r Rosari yn ffurf eiriolaethol. I nifer o bobl sy'n mynychu mae'r grŵp Rosari yn atgof pleserus ffurf o weddi o gyfnod eu llencyndod.

Un ffynhonell o anogaeth yw'r ffordd y mae wedi ein hymrwymo yn eciwmenaidd. O'r dechrau rydym wedi ein bendithio gyda phresenoldeb ein brodyr a chwiorydd o'r eglwysi Catholig lleol sydd erbyn hyn yn fynychwyr rheolaidd, yn gefnogol iawn i'n hymdrechion, yn gwerthfawrogi y cyfle i rannu ffurf o weddi ble nad oes unrhyw ffurf o raniad. Mae traddodiadau eraill wedi dangos diddordeb ac yr un mor awyddus i ddysgu ffurf arall o weddi.

Os oes gennych ddiddordeb yn ei brofi am y tro cyntaf, neu barhau eich defnydd o'r Rosari fel ffurf o fyfyrio a defosiwn, ymunwch gyda ni yng nghymuned Sant Leonard ble mae croeso i bawb rannu y bererindod o weddio gyda'n gilydd.