GDg(Ll): Parchg. Carol Court
"Trawsnewidiodd fy mywyd.”
Anhygoel yw clywed ein bod yn dathlu degawd o Weinidogaeth Di-Gyflog(Ll) [GDG(Ll)]. Mae’r cyfleoedd a roddodd i gymaint ohonom yn rhyfeddol. Pan gwahoddwyd fi gyntaf i gynnig am le ar y cynllun, wyddwn i ddim hyd yn oed am ei fodolaeth ac eto, mae’n rhywbeth a drawsnewidiodd fy mywyd.
Tra y teimlwn yn fy nghalon yr alwedigaeth i ddwyshau fy ngwaith a’m bywyd i wasanaethu Crist, freuddwydiais i byth y byddai’n bosib i mi, gweithwraig lawn amser gyda’r weinyddiaeth sifil, gael fy ordeinio’n weinidog tra’n parhau â ‘ngwaith hefyd.
Trafferthus oedd ceisio cynnal gyrfa lawn amser ynghyd â chanfod amser i ddysgu a derbyn hyfforddiant er bod yn weinidog ordeiniedig ar y dechrau. Bûm yn ffodus iawn i allu lleihau fy llwyth gwaith a rhoi mwy o amser at weinidogaeth.
Peth da oedd gallu derbyn hyfforddiant o fewn fy AWL a chael penwythnosau hyfforddiant o fewn pellter cyfleus a bûm yn ffodus hefyd o gael yr ebrwyad a thîm gorau posib i’m harwain ar hyd taith a oedd, ar adegau, yn heriol iawn.
Yn ogystal â’r gefnogaeth a’r cyfarwyddiad gan arweinwyr y cynllun, roeddwn yn ffodus o gael hyfforddiant ymysg criw arbennig o bobl o gefndiroedd amrywiol. Byddant bythol yn agos at fy nghalon a thrysoraf yn fawr y cyfeillion ddaeth i’m rhan yn ystod y cyfnod hwn.
Erbyn hyn, rydw i wedi symud at weinidogaeth lawn amser a theimlaf hi’n anrhydedd o gael gwasanaethu mewn cymuned mor hyfryd. At bwy bynnag sy’n teimlo’r alwad at GDG(Ll), wnewch chi ddim difaru.