Hafan Pobl Dewi: Rhagfyr 2023 Ysbrydion sy’n gweini yn barod i wasanaethu

Ysbrydion sy’n gweini yn barod i wasanaethu

Gwarchodlu C [book cover]

Y Gwarchodlu / The Bodyguards

Awdor: Geraint Wyn Jones

Cyhoeddwr: Yr awdor, 2023

ISBN: 979886677307

Pris: Clawr Caled £13.99, Clawr Meddal £8.99, Kindle £2.99


Y mae aelodau o uned byddin filwrol arbennig yn gorwedd wedi eu cuddio ar sgarp yn edrych lawr ar ran unig o ffordd. Maent fod gwarchod dyn busnes sy’n cario rhywbeth a fydd yn chwarae rhan mewn digwyddiad tra phwysig. Y mae llygaid gelyniaethus hefyd ar y ffordd; bydd rhaid maeddu uned y gelyn, ac y mae’n cael ei ddiwedd mewn brwydr dreisiol yn haeddu bod yn un o storiau Jack Reacher Lee Child. Y mae’r ffordd nawr yn glir, mae’n ddiogel i’r dyn busnes i barhau ar ei daith, ac y mae’r thus drud yn mynd i ddwylo dyn doeth yn y dwyrain. Bydd ef yn ei dro yn mynd ag e i dref fechan yn Jwdea fel anrheg gwerthawr i’r baban Iesu. Y mae’r angylion gwarcheidiol yn symud ymlaen i sicrhau agweddau eraill o’r ymgyrch.

Fel hyn y mae Geraint Wyn Jones yn ail-ddweud stori’r Nadolig o safbwynt yr angylion. Ym mhob man, y mae angylion gwrthgiliol Satan yn ceisio gwirdroi cynllun Duw am enedigaeth ei Fab fel Gwaredwr, ac y mae angylion gwarcheidiol y llu nefolaidd ar gael i sicrhau ei lwyddiant.

Nid yn unig ein bod yn ymwybodol o ryfel ysbrydol yn ymddangos tu ôl i’r stori adnabyddus, ond y mae gennym fynediad breintiedig i lysoedd y Nefoedd ei hun. Gwelwn Mihangel, cadlywydd llu’r Nefoedd, yn sicrhau bod gorchmynion Duw yn cael eu gwireddu. Bydd y côr o angylion yn ymarfer erbyn y prif ddigwyddiad yn yr awyr uwchben Bethlehem yn atgoffa llawer o ddarllenwyr am gorau eglwysig y buont neu maent yn rhan ohonynt, ac y mae Axa, y côr-feistr ffyslyd a Dylan nad yw’n gallu canu mewn tiwn yn rhoi tipyn o gomedi. Ar y ddaear y mae’r angylion, yn fythol bresennol ond yn anaml yn weladwy, yn ddyfais storiol ddefnyddiol, gan roi i’r darllenwr fynediad agos i Mair a Joseff a’r actorion eraill yn y stori.

Y mae hwn yn ddarllen Nadolig da, yn ddifyr ac yn codi cwestiwn.

Cyhoeddir y llyfr yn y Gymraeg a’r Saesneg (The Bodyguards). Mae’r ddau ar gael ar Amazon.

Peter Bement