Hafan Pobl Dewi: Rhagfyr 2023 Tyfu i bawb

Tyfu i bawb

Abergwili Walled Garden

Bywyd newydd i ardd furiog hanesyddol Abergwili

Cyn bo hir bydd mwy o bobl nag erioed yn gallu mynd ati i ddysgu a thyfu ym Mharc yr Esgob, Abergwili sydd wedi’i drawsnewid yn ddiweddar. Mae Ymddiriedolaeth Porth Tywi, elusen fechan a arweinir gan y gymuned, bellach gam yn nes at gwblhau’r darn olaf o’r jig-so yn y parc, gydag adferiad yr ardd ‘gyfrinachol’ a fu unwaith yn tyfu ffrwythau a llysiau ar gyfer bwrdd Esgobion Tyddewi.

Mae’r Ymddiriedolaeth wedi derbyn mwy na £203,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol fel rhan o gyllid cyfnod datblygu ar gyfer adfer gardd lysiau â wal o’i chwmpas hi ym Mharc yr Esgob. Mae Prosiect Gardd Furiog Parc yr Esgob hefyd wedi derbyn £137,127 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU fel rhan o Gronfa Cymunedau Cynaliadwy Cyngor Sir Caerfyrddin.

Abergwili Walled Garden Aerial 2023

Mae hen dir Palas Esgobion Tyddewi, sydd bellach yn gartref i Amgueddfa Sir Gaerfyrddin, wedi bod yn lle i dyfu, dysgu a mwynhau ers dros 800 mlynedd. Ymgymerodd yr Ymddiriedolaeth â rheolaeth yr ardd oddi wrth yr Eglwys yng Nghymru yn 2018. Ers hynny mae’r parc a’r ardd hanesyddol hon o bwysigrwydd cenedlaethol wedi bod yn destun rhaglen drawsnewid fawr a gwblhawyd yn 2022, ac ers hynny mae wedi derbyn y Faner Werdd a Gwobrau’r Faner Dreftadaeth ar gyfer ansawdd y safle, ei reolaeth a phrofiad yr ymwelydd.

Fel rhan o’r cyfnod datblygu 12 mis cychwynnol hwn bydd yr Ymddiriedolaeth yn gweithio gyda grwpiau a sefydliadau lleol i lunio cynlluniau manwl ar gyfer adfer tri thŷ gwydr hanesyddol, creu gardd addysgiadol gwbl hygyrch a gofod perfformio ymhlith y coed ffrwythau treftadaeth. o fewn yr ardd furiog.

Dywedodd Rheolwr y Prosiect, Louise Austin: “Bydd y gwobrau hyn nid yn unig yn helpu i sicrhau adfer yr ardd furiog ond hefyd yn helpu i sicrhau bod y parc cyfan yn gynaliadwy i’r dyfodol fel adnodd cymunedol gwych i bawb ei fwynhau.”