Hafan Pobl Dewi: Rhagfyr 2023 Dyddiau da, dyddiau drwg

Dyddiau da, dyddiau drwg

2023 Diocesan Conference

Mae David Hammond-Williams yn adrodd yn ôl yn dilyn Cynhadledd yr Esgobaeth eleni.

Thema’r gynhadledd y flwyddyn hon oedd Halen a Golau, yn adlewyrchu dewis yr esgobaeth o Gyfrifioldeb Cymdeithasol fel ei ffocws dros y flwyddyn i ddod.

“Mae’n cynnwys bron popeth yr ydym yn ei wneud” eglurodd Swyddog Cyfrifoldeb Cymdeithasol yr Esgobaeth, Justin Arnott. “A hoffem glywed rhai hanesion da”

Ac felly roedd yn ymddangos. Yn dilyn, cafwyd Cyflwyniadau ar Faterion Gwledig, Plant, Ieuenctid a Theuluoedd ac ymateb yr esgobaeth i dlodi a gofal am ffoaduriaid.

Cyllid

Mae materion cyllidol yn dal i beri problemau, yn ôl adroddiad Tim Llewellyn, Is-gadeirydd Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth. Ac i’r fath raddau fel ei fod am y tro cyntaf wedi cyhoeddi bod y Bwrdd yn cynnig cyllideb diffyg ariannol pan fydd gwariant yn fwy na’r incwm wrth tua £171,000. Mae hyn yn gydwerth â chost am bedwar clerigwr.

I ateb hyn mae 250k wedi ei gymryd allan o fuddsoddiadau’r esgobaeth a newidwyd y broses gyllidol i fod yn chwarterol er mwyn cadw llygad yn fwy manwl ar rif y clerigwyr a Chyfran Gweinidogaethol sydd, er iddo ddychwelyd erbyn hyn i lefelau 2020 (cyn cofid) yn cael ei adolygu a’i ddiwygio i lawr os yn bosibl.

Holi ac Ateb

Codwyd dau gwestiwn, a’r dau’n ymwneud â llywodraethiant AGLl. Llwyddodd y Parch Peter Radcliffe i gael caniatâd i gyflwyno Cynnig Aelod Preifat yn y Bwrdd Llywodraethol sef i gael gwared ar y terfyn oedran uchaf o 75 ar gyfer deiliaid swyddi plwyfol. Dangosodd pôl piniwn answyddogol fod yna gefnogaeth llethol i’r syniad. Ond rhybuddiodd Cadeirydd y Gynhadledd Paul Mackness y byddai angen newid y cyfansoddiad ar lefel esgobaethol a thaleithiol cyn y gallai hyn ddigwydd.

A gofynnodd y Parch Seamus Hargrave am adolygiad o’r system AGLl ar draws yr Eglwys yng Nghymru. Cynghorodd Tim Llewellyn, Is gadeirydd y Pwyllgor Sefydlog fod AGLl mewn gwahanol gamau yn eu datblygiad ar draws y dalaith a bod adolygiadau’n cymryd lle ar lefel leol yn hytrach na thaleithiol.

Etholiadau

Cyhoeddwyd canlyniadau dwy etholiad yn y Gynhadledd. Y Parch Steven Brett fu’n llwyddiannus fel aelod clerigol yr esgobaeth ar y Corff Llywodraethol, ac ail etholwyd Paul Mackness, Archddiacon Tyddewi fel cynrychiolydd yr esgobaeth ar Gorff Cynrychioladol Yr Eglwys yng Nghymru.

Cynhelir y gynhadledd nesaf ar ddydd Sadwrn Hydfref 5ed ond ni phenderfynwyd ar y lleoliad eto.