Dyddiadur Offeiriad wedi ymddeol.
Mân gleber tymhorol gyda Christopher Lewis-Jenkins.
Tra’n eistedd fan hyn, rwy’n pyslo a ddylwn fynd â’r ci am dro. Na, nid fy nghi i ond ci’r ferch sy’n byw ym Mhensylvania yn yr Unol Daleithiau.
Mae’r wraig a finnau yma tan fis Ionawr. Fe wariom y Nadolig diwethaf gyda’r mab yng Ngogledd Corneli ar gyrion Porthcawl felly tro ein teulu yn yr Amerig yw hi. Dyna foddhad cael profi lliwiau dail y coed yn ystod y ‘Cwymp’ neu “the Fall” - fel gelwir yr hydref gan yr Americanwyr. Amrywiol gyfliwiau o goch, oren, melyn a gwyrdd - syfrdanol.
Mae Calan Gaeaf yn prysur nesáu; nid yr un anhyfryd sy’n digwydd yn y DU ond un sy’n gyfle am hwyl a sbri. Gwisgoedd o bob math o anifail a pherson gyda bach iawn o wrachod, ysbrydion a bwci bos i’w gweld. Mae’n debyg fy mod yn gwisgo fel Dumbledore o storiau a ffilmiau Harry Potter.
Yna, yn rhwydd iawn, cyrhaeddwn y Diolchgarwch, sef gŵyl FAWR y flwyddyn pan fydd pawb yn gwneud ei orau glas i gyrraedd gartref er mwyn bod gyda’r teulu, rhai’n teithio miloedd o filltiroedd er mwyn bod yno. Mae rhywfaint o ddadlau gyda’r Americaniaid brodorol, wrth gwrs, sydd ddim yn gweld unrhyw achos i ddathlu. Nesaf, daw Nadolig a Chalan y flwyddyn newydd, sy’n ddim ond dydd arall i lawer o Americanwyr cyn dychwelyd i’w bywyd arferol.
Es am dro ar y beic ddoe, o amgylch y llyn sydd yng nghanol y stad lle mae fy merch yn byw, wrth fy modd ond hefyd yn teimlo pob un o ‘mlynyddoedd. Fel dywed Matthew yn ei chweched-bennod-ar-hugain, adnod 41, “Yr ysbryd yn ddiau sydd yn barod, eithr y cnawd sydd wan!” Ymhlyg o fewn y dyddiau hyn oll, rydym fel teulu yn dathlu pedwar penblwydd. Yn bersonol, rwy’n edrych ymlaen at yr eira a thrwch arferol o dair neu bedair troedfedd, felly digon o ymladd cesyg eira a mynd ar gart eira gyda’r plant.
Gadewch i mi ddymuno Gŵyl Nadolig sanctaidd a bendithiol i chi i gyd ynghyd â blwyddyn newydd dda.