Cytûn – edrych i agor y bennod nesaf
Mae Parchedig Sion Brynach yw Prif Weithredwr newydd Cytun
Mae’r cyfnod ers fy niwrnod cyntaf yn y swydd ar ddechrau Ebrill wedi bod yn amser digon cyffrous i Cytûn : Eglwysi ynghyd yng Nghymru. Mae dyfodiad unrhyw Brif Weithredwr newydd yn gyfnod o ail-osod ac ail-drefnu, yn enwedig wedi i’r Canon Aled Edwards fod yn y swydd cyhyd – bron i bymtheg mlynedd. Yn anochel felly, rhaid ail-ystyried blaenoriaethau’r sefydliad, a dyw hynny byth yn hawdd.
Mae Cytûn yn sefydliad diddorol gan mai’r Ymddiriedolwyr mewn ymgynghoriad ag arweinwyr eglwysig y genedl sy’n pennu cyfeiriad strategol y sefydliad. Dyna pam i fi flaenoriaethu dau beth wrth gychwyn yn y swydd.
Y cyntaf oedd i mi holi cwestiynau dirfodol ynghylch dyfodol Cytûn a’r mudiad eciwmenaidd yng Nghymru – a chael y cyfle i wneud hynny diolch i wahoddiad a ddaeth i mi draddodi darlith goffa’r Parch Lloyd Jones yn Eglwys Beuno Sant Clynnog Fawr, yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol. Daeth y gwahoddiad oddi wrth y Parch Casi Jones, gweddw Lloyd, a’r Parch Rosie Dymond ebrwyad ardal weinidogaeth Uwch Gwyrfai. Yn y ddarlith honno, “Dringo’r ail fynydd : dyfodol i eciwmeniaeth yng Nghymru?” cefais gyfle i amlinellu rhai o’r pethau a oedd wedi fy nharo yn ystod fy misoedd cyntaf yn y swydd, ac yn enwedig felly gynnwys rhai o’r anerchiadau ac areithiau yr oeddwn wedi eu clywed yn ystod y cyfnod hwnnw. Ac yn deillio o’r rheini holi rhai o’r cwestiynau allweddol i Cytûn a’r mudiad eciwmenaidd. Rwyf wedi treulio rhannau helaeth o’m gyrfa yn gweithio ym maes cyfathrebu, ac yn anochel felly, y cwestiynau allweddol i fi, bron bob amser, yw pwy, beth, pam, pryd, lle a sut (maen nhw rhywsut yn fyw cyfarwydd yn Saesneg – who, what, why, when, where and how?), a dyma’r cwestiynau i fi y mae’n rhaid i Ymddiriedolwyr Cytûn, mewn ymgynghoriad ag arweinwyr eglwysig Cymru fynd i’r afael â nhw.
Ac yn ail – yn deillio yn uniongyrchol o’r cyntaf – trefnwyd cyfarfod ar y cyd ar gyfer arweinwyr eglwysi Cymru, am y tro cyntaf er blynyddoedd lawer, ar yr 19eg o Hydref. Bu hwnnw yn gyfarfod hynod adeiladol, ac mae ‘na adroddiad yn deillio ohono ar y gweill ar hyn o bryd, i’w gyhoeddi ar wefan Cytûn cyn y Nadolig.
Y sgil yr adroddiad hwnnw gall Ymddiriedolwyr Cytûn ystyried dyfodol eciwmeniaeth yng Nghymru. Wedi’r cyfan nid dewis ond dyletswydd yw dilyn cyfarwyddyd Iesu ar y noson cyn ei groeshoelio i’w ddilynwyr “fod yn un fel yr ydym ni yn un” (Ioan 17).
Gellir dod o hyd i’r ddarlith hon ar wefan Cytûn- www.cytun.cymru