Cysur a llawenydd
Y mae Catrin Eldred yn disgrifio sut y gall Plant Dewi gynnig cymorth i deuluoedd sy’n dioddef y Nadolig hwn
Y Nadolig, tymor rhoi a derbyn, tymor teuluoedd yn dod at ei gilydd o gwmpas bwrdd yn orlawn gan fwynhau. Glityr ar y goeden, siopau’n gorlifo, pantos a dramau gyda chwerthin a hwyl. Ond i rai nid yw hyn ond yn fwgwd dros realiti y byddant yn ei wynebu y Nadolig hwn, bydd rhai yn unig, rhai teuluoedd gyda’i gilydd yn golygu tensiynau a phwysau ac ni fydd y bwrdd yn orlawn o fwyd Nadolig, gan y bydd rhaid iddynt ddewis rhwng anrhegion Nadolig, bwyd neu wres.
Y mae Plant Dewi yn cefnogi’r teuluoedd hyn drwy’r flwyddyn, nid yn unig adeg Nadolig, yn gorfod wynebu realiti o fagu plant fel rhieni ar gyflog isel, rhieni sengl, mamau a thadau ifanc yn methu ateb gofynion angenrheidiol eu baban newydd eni. Bydd Plant Dewi yn cynnig clust i wrando i deuluoedd sy’n brwydro gyda gofynion bob dydd, yn cynnig cefnogaeth ymarferol i’r rhgeiny sy’n delio gyda brwydrau a straen emosiynol.
I alluogi Plant Dewi i wneud y gwaith hwn mae angen cymorth ariannol, a gallwn wneud hyn drwy brynu cardiau Nadolig, trefnu gwasanaeth Cristingl (pecynnau ar gael o Plant Dewi) a chael blychau casglu – gall hyn i gyd wneud cymaint o wahaniaeth, gan sicrhau y bydd y rhai sy’n dioddef yn derbyn y gefnogaeth y maent yn ei haeddu. Efallai y dymunwch roi parsel o fwyd neu deganau i’w rhoi i deuluoedd mewn angen – dychmygwch y wên ar wyneb plentyn adeg Nadolig, wrth iddynt weld anrhegion o dan y goeden. Mae’n adeg o roi a derbyn wedi’r cyfan.
Cofiwch, y gwir reswm dros ddathlu’r ŵyl Gristnogol fawr yw’r Iesu, wedi ei eni nid mewn palas ond mewn stabal, gyda phreseb yn wely iddo. Bydd Stori’r Geni, wedi ei chyflwyno gan gymaint o blant, a fydd yn Mair neu Joseff, yr Angel, Bugeiliaid neu Ddoethion, neu hyd yn oed Herod, yn gwybod bod eu cartref nhw yn llwm, na fydd llawer o anrhegion, ac y mae gwisgo lan yn rhoi llygedyn o obaith.
Y Nadolig hwn gallwn roi ein cymorth ariannol i sicrhau bod pob teulu’n derbyn cariad Crist, drwy waith parhaol pawb yn Pobl Dewi.
Am fwy o wybodaeth am y cardiau Nadolig a’r pecynnau Cristingl, ewch i