Hafan Pobl Dewi: Rhagfyr 2023 Hanesion Plentyndod Ficerdy

Hanesion Plentyndod Ficerdy

Iechyd Da!

Ces i ngeni a’m magu yn y cyfnod ar ôl y rhyfel, mae hynny’n gwneud i fi deimlo’n hen! Roedd y wlad yn ceisio codi safon iechyd plant yn enwedig, ac rwyn cofio cael sudd oren melys oddi wrth glinic. Deuai Nyrs i’r ysgol i’n asesu, i’n pwyso a’n mesur, ac i chwilio ein pennau, ‘ y nit nurse’ oedd hi.

Deuai deintydd hefyd i’r ysgol ac yn gallu rhoi nwy anasthetig i dynnu dannedd. Daeth rhywun i brofi llygaid , a dim ond wedi mynd at optegydd , a chael sbectol, y sylweddolais bod pobl yn gallu gweld dail ar y coed, a mod i nawr yn gallu gweld fy nhad wrth yr allor yn yr eglwys. Siâp gwyrdd oedd coeden i fi cyn hynny. Agorwyd y byd!

Roeddem yn cael brechiadau, fel pawb arall, ac wedi i glefyd y frech wen (smallpox) godi ei ben yn 1962 aethom i giwio tu allan i syrjeri Dr.Monty yn Spilman St. yng Nghaerfyrddin i’n brechu.

Nurses [Vicarage childhood]

Roeddem yn blant iach, bochgoch. Cofiaf y cigydd yn Nhreforus, Dewi, a oedd yn siarad Cymraeg, yn dweud wrth fy mamgu yn ei siop, ein bod ein dwy yn edrych yn iach ac yn amlwg yn blant y wlad. Ffordd arall o ddweud ein bod braidd yn ‘chubby’!

Ches i ddim o’r frech goch na brech yr ieir, dim ond y dwymyn doben (‘mumps’) Roedd gan nhad obsesiwn bod popeth yn cael ei grasu, dillad gwely yn enwedig. Roedd ei fodryb, fel llawer o’i chenhedlaeth, wedi marw’n ifanc o’r diciau. Byddai’r lleithder ar waliau’r ficerdy yn y gaeaf siŵr o fod yn fwy peryglus i ni!

Credai rhai yn ein plwyfi mewn meddyginiaeth naturiol. Wedi i Enfys ddeffro pan yn fach iawn, heb fedru agor ei llygaid, rhoddodd un o’r plwyfolion botel o ddŵr glaw mis Mai i roi ar ei llygaid. Mae hi’n gweld yn ddi-drafferth ers hynny! Roedd gwraig arall yn ceisio gwella cryd cymalau poenus fy mam drwy ei chlatsio yn eithaf trwm, nes ei bod yn gleisiau porffor. Ni weithiodd hwnnw, yn anffodus.

Thorres i ddim asgwrn chwaith. Ond fe fyddai Enfys yn falch o’ch hysbysu fy mod i wedi ei gorfodi i ddringo i ben wardrob, ac wedi syrthio, torri ei choes yn bedair oed. Rwyn gwadu pob cyhuddiad. Gorfod iddi dreulio noson yn yr ysbyty, ac yn y dyddiau hynny, doedd rhieni ddim yn cael aros gyda’u plant. Creulon. Cymerodd flynyddoedd iddi ddod dros y trawma, ac aros i ffwrdd heb fy rhieni. Gwnaeth yn iawn am hynny nes mlaen!

Eluned Rees