Hafan Pobl Dewi: Rhagfyr 2023 2024 - Blwyddyn Halen a Golau

2024 - Blwyddyn Halen a Golau

Salt and Light Image 2

Mae Justin Arnott, Swyddog Cyfrifoldeb Cymdeithasol, yn amlinellu y beth, y sut a’r pam y flwyddyn o’n blaen.

Trwy gydol Blwyddyn Halen a Golau, fel y gelwir y Flwyddyn Cyfrifoldeb Cymdeithasol hon, byddwn yn canolbwyntio ar wahanol agweddau o Gyfrifoldeb Cymdeithasol.

Yr ydym yn cychwyn gyda chwrs Adfent o astudio’r Beibl (ond ni ddylir cyfyngu hyn i’r Adfent, yn wir mae’n ein hannog i fod yn weithredol y tu hwnt i un tymor penodol). Yna byddwn yn edrych ar feysydd dieithriaid, tramorwyr a ffoaduriaid cyn bydd astudiaethau Beiblaidd y Pasg ar gael, a bydd hwn fel yr un Adfent yn ymwneud â’r thema, golau.

Gan feddwl am y Gynhadledd Esgobaethol, gellir dweud gan rai nad oedd digon o amser i fyfyrio a thrafod. Dw i ddim yn ymddiheuro am hyn. Er bod trafodaeth o bosib yn dwyn ffrwyth, gweithgaredd fewnol ydyw. Y syniad y tu ôl i Halen a Golau yw mai rhywbeth allanol y dylsai fod. Os ydych yn ansicr o’r hyn y gellir ei wneud, mae croeso i chi edrych ar ein deunydd, neu gael trafodaeth. Fodd bynnag, dw i’n hyderus ein bod eisioes yn rhan o leiaf o rai o’r nifer o feysydd cyfrifoldeb cymdeithasol.

Ochr yn ochr â’r agweddau positif y soniwyd amdanynt yn y Gynhadledd Esgobaethol, megis rhywbeth mor syml â gwên neu air caredig i drawsnewid diwrnod rhywun, dylsem hefyd gadw mewn cof natur ataliol a gwellhaol y dylanwad y gallwn ei gael. Yn union fel y gall halen gael ei ddefnyddio mewn ffordd bositif i wella blas bwyd, gall hefyd gael ei ddefnyddio i atal bwyd rhag difetha neu ar gyfer halltu bwyd i’w gadw.

Ni ddylsem beidio ag ystyried anferthwch ein llais lleiaf. Pe baech yn gwglo ‘Tank man” y tu allan i Tseina, cewch eich atgoffa o lun rhyw ddyn dienw’n stopio tanc yn Sgwâr Tienaman. Efallai na chewn ein galw i wneud y fath weithred gyhoeddus, ond yn ein sgwrs bob dydd dylsem fod yn barod i sefyll dros yr hyn sy’n iawn. Wrth godi llais yn erbyn anghyfiawnderau yn y byd, nid yn unig y rhai mawr bydeang, ond hefyd y rhai bach bob dydd, byddwn yn ymddwyn fel yr halen i atal drwg rhag lledaenu.

Y sialens i ni yw ymddwyn fel diheintydd, fel y gwna’r heulwen, yn y meysydd hynny o fewn cymdeithas ble fyddwn yn gweithredu. Nid o fewn adeilad eglwys ond y tu allan yn y byd. Yn aml iawn gwyddom beth i’w wneud, nid yw’n fater yn unig o siarad amdano, ond yn hytrach mynd a’i gyflawni. Os ydych yn teimlo wedi gorlethu neu heb fod yn sicr fel i weithredu a helpu mewn un maes, yna chwiliwch am un arall, o bosib yn y fan ble’r ydych chi eisioes, a bod yn halen a golau ble bynnag posib.