Apêl Ddyngarol y Dwyrain Canol
Cysylltaf brynhawn 'ma i adael i chi wybod bod Pwyllgor Argyfyngau Brys (DEC) wedi lansio Apêl Ddyngarol y Dwyrain Canol heddiw i godi arian ar fyrder i helpu pobl y mae eu bywydau'n cael eu chwalu gan wrthdaro: https://www.christianaid.org.uk/appeals/emergencies/dec-middle-east-humanitarian-appeal
Mae'r DEC yn dod â 15 o elusennau cymorth blaenllaw at ei gilydd, gan gynnwys Cymorth Cristnogol, i godi arian ar fyrder ac yn effeithlon ar adegau o argyfwng dramor lle mae angen dyngarol sylweddol heb ei ddiwallu. Ar hyn o bryd, mae miliynau o bobl ledled Gaza, Libanus a'r rhanbarth ehangach mewn angen dybryd am fwyd, lloches a gofal meddygol. Heddiw yw cychwyn pythefnos o weithredu ar y cyd gyda’n cyd-aelodau DEC. Mae hwn yn golygu ein bod yn dod ynghyd â’r 14 INGOs arall, partneriaid DEC, darlledwyr a chefnogwyr er mwyn codi arian i’r argyfwng dyngarol sydd ar gynnydd ar draws y Dwyrain Canol. Yn barod heddiw mae’r apêl wedi’i rannu gan BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales, ac eraill fel ITV a S4C yn paratoi i rannu am yr apêl hefyd. Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi £100,000 i'r apêl a bu Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies gyda ni ym Mae Caerdydd yn lansio’r apêl yng Nghymru fore 'ma (gweler yma). Rydym hynod o ddiolchgar am ymateb hael unigolion ac eglwysi yn barod dros y misoedd diwethaf. Fe ail lansiwyd Cymorth Cristnogol ein hapêl Gaza ond 5 wythnos yn ôl ac roedd yr ymateb yn syfrdanol, a hyn ar ben ymateb at apêl y Dwyrain Canol dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r Apêl Ddyngarol y Dwyrain Canol DEC nawr yn gyfle i ddiolch pobl am eu hymateb hyd yn hyd, i wahodd pobl i ymateb unwaith yn rhagor, ac i gefnogi yn yr ymdrech i godi ymwybyddiaeth gyhoeddus.
Yn sydyn iawn, a wnewch chi rannu am yr apêl?
- Ail-rhannwch ein postiadau cyfryngau cymdeithasol: DEC X English a DEC X Cymraeg a CA Wales Facebook
- Plîs defnyddiwch yr asedau/baneri wedi’u hatodi ar eich tudalennau cyfryngau cymdeithasol a chylchlythyron
- Rhannwch y ddolen yma lle gall pobl roi i'r apêl DEC: https://www.christianaid.org.uk/appeals/emergencies/dec-middle-east-humanitarian-appeal
Be y gall eglwysi gwneud?
- Ail-rhannwch postiadau cyfryngau cymdeithasol: DEC X English a DEC X Cymraeg a CA Wales Facebook
- Codwch ymwybyddiaeth: trwy argraffu ac arddangos y posteri syml du a gwyn y tu allan i’r eglwys ac yn y gymuned: caid.org.uk/DECMiddleEastResources
- Cynnal casgliad: mae amlenni argyfwng Cymraeg a Saesneg ar gael i archebu yma: caid.org.uk/DECMiddleEastResources neu dros 08080 005 005
- Gweddio: Os mae cyfle gennych i gynnal moment o weddi a myfyrdod, dyma rai pwyntiau y medrwch ddefnyddio:
Gweddiwch dros:
- Y rhai sydd wedi’u dadleoli gan yr wrthdaro, gan gofio bod menywod sydd yn teithio gyda phlant ymhlith pobl fwyaf bregus yn y byd
- Y rhai sydd wedi colli pobl annwyl oherwydd trais, a’r rhai sydd wedi’u hanafu ac yn profi trawma
- Staff a gwirfoddolwyr meddygol, rhai proffesiynol a’r rhai sydd wedi camu mewn i helpu, gam amlaf gyda phrinder adnoddau. Gweddïwn am fannau diogel er mwyn i bobl adfer.
- Gweithwyr cymorth dyngarol wrth iddynt ddarparu adnoddau hanfodol i gymunedau mewn argyfwng
- Y rhai sydd wedi colli eu bywoliaeth oherwydd ansefydlogrwydd, gan wybod y gall fod yn flynyddoedd cyn y gellir ailadeiladu
- Arweinwyr a chymunedau ffydd ar draws y Dwyrain Canol sydd yn gweithio i wasanaethu eu cymdogion ac i dywys cysur i’r rhai sydd yn dioddef
- Pawb sydd gyda’r grym i ddod â therfyn ar y trais fel y gellir dilyn trywydd at heddwch
- Plant sydd yn cael eu geni mewn i sefyllfaoedd o wrthdaro. Y trwy heddwch a grym trawsffurfiol cariad, y gellir tyfu fyny yn ddiogel rhag pob drwg
I canfod mwy am sut mae Cymorth Cristnogol a'n partneriaid yn ymateb, ac i roi, ewch i: https://www.christianaid.org.uk/appeals/emergencies/dec-middle-east-humanitarian-appeal
Mari McNeill
Pennaeth Cymorth Cristnogol Cymru