Tywysog y Pererinion
Bu Ei Uchelder Brenhinol, Tywysog Cymru, mewn gwasanaeth arbennig yng Nghadeirlan Tyddewi i nodi canmlwyddiant yr Eglwys yng Nghymru.
2020 oedd blwyddyn y canmlwyddiant, ond bu'n rhaid canslo'r dathliadau oherwydd y pandemig.
Ar ei ymweliad cyntaf â'r Gadeirlan ers 2008, bu'r Tywysog hefyd yn ymweld â chysegrfan Dewi Sant, a adnewyddwyd yn 2012, fel rhan o'i daith haf flynyddol o amgylch Cymru.
.
Yn cyfarch y Tywysog wrth iddo gyrraedd oedd Sara Edwards, Arglwydd Raglaw Dyfed, a Deon Tyddewi, y Tra Pharchedig Ddr Sarah Rowland Jones, yr Is-Ddeon, Canon Leigh Richardson, ac Uwch Esgob Cymru, Esgob Bangor, Y Gwir Barchedig Andy John.
Bu'r Tywysog yn sgwrsio hefyd gyda'r artist a'r crefftwyr oedd yn gyfrifol am adnewyddu'r gysegrfan, yn ogystal â chynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru, y Gadeirlan a'r gymuned.
Cyflwynwyd dyblygiad o Rosyn Glyn Rhosyn (un o'r nodweddion ar y gysegrfan) i'r Tywysog, yn ogystal â chopi o Hanes swyddogol yr Eglwys yng Nghymru gan yr Athro Norman Doe a chyflwyniad fideo i deithiau cerdded pererinion o gwmpas penrhyn Tyddewi.